Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gramadeg
Llinell 9:
Felly erbyn 1904 roedd sawl eglwys a sawl arweinydd Cristnogol yng Nghymru wedi troi cefn ar y traddodiad Calfinaidd, bellach roedd eu Cristnogaeth yn ddim byd mwy na rhan o'i diwylliant; nid oedd iddo elfen ddwyfol ddifrifol. Rhaid ystyried y cefndir yma er mwyn deall y Gymru fu'n llwyfan i ddiwygiad 1904-1905; roedd Cymru'n newynog am adfywiad ysbrydol.
 
== PalmantuParatoi'r ffordd i'r Diwygiad ==
Hyd yma mae'n bosib fy mod wedi rhoi portread rhy dywyll o Gymru rhwng 1859 a 1904. Fe fu Duw'n gweithio mewn adfywiadau lleol ar amseroedd gwahanol; bu adfywiadau lleol yng [[Cwmafan|Nghwmafan]] (1866), [[Rhondda]] (1879), [[Caerfyrddin]] a [[Blaenau Ffestiniog]] (1887), [[Dowlais]] (1890) a'r [[Bontnewydd]] (1892). Fe ddigwyddodd yr adfywiadau yma wedi i Gristnogion yn yr ardaloedd hynny weddïo’n ddwys. Dyma batrwm a welwyd cyn i ddiwygiad 1904-1905 dorri allan; er enghraifft drwy 1902-1903 fe gyfarfu holl arweinwyr Bedyddiedig Cwm Rhondda, 35 ohonynt, yn rheolaidd i weddïo am fendith. Yng nghapel Hebron, Ton, fe fu cyfarfodydd gweddi hyd 1904 ac wedi iddyn nhw glywed fod Duw ar waith yn Hebron, Dowlais dwysáu gwnaeth y gweddïo yn Hebron, Ton, yn y gobaith y byddai'r fendith yn dod atynt hwythau hefyd.
 
== Y Diwygiad yn dechrau ==
Llinell 27:
Ar ddechrau Tachwedd 1904 fe wahoddwyd Joseph Jenkins fel pregethwr gwadd i gapel Bethani, [[Rhydaman]], eglwys [[Nantlais Williams]]. Fe drefnwyd fod Joseph Jenkins i ddod cyn fod newydd am y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman, serch hynny gan fod Joseph Jenkins yn dod teimlodd Nantlais y byddai hi'n briodol trefnu cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul i Joseph Jenkins adrodd yr hanes. Mae'n debyg i Nantlais ofidio na fyddai diddordeb ac na fyddai neb yn dod i'r cyfarfod arbennig yma, serch hynny pan gyrhaeddodd Nantlais prin yr ydoedd yn medru mynd i mewn i glywed Joseph Jenkins.
 
Ymhell cyn clywed sôn am ddiwygiad roedd hi wedi ei threfnu fod Joseph Jenkins i siarad ar y Nos Lun cyn iddo ddychwelyd i Geinewydd. Fe lenwyd y capel i'r ymylon unwaith yn rhagor ar y nos Lun, ond o bosib y digwyddiad mwyaf hynod y noson honno oedd i ŵr ddatgan o'r galori “Mi fydd cyfarfod arall yma nos yfory...”. Fe gynhaliwyd cyfarfod arall ar y nos Fawrth a barhaodd tan oriau mân y bore; roedd y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman. Er bod Nantlais eisoes wedi ei ordeinio gan yr enwad, gwerth fyddai nodi na ddaethchafodd Nantlais ei hun yn Gristiondröedigaeth tan benwythnos ymweliad Joseph Jenkins â Rhydaman yn Nhachwedd 1904. Daeth i gadwedigaeth ar y Nos Sadwrn, noswyl ymweliad Joseph Jenkins.
 
=== Gogledd Cymru ===
Llinell 45:
== Casgliadau ==
 
Credir fod oleuaf 100,000 o bobl wedi dod yn Gristnogion yn y diwygiad. Er gwaetha'r ffaith i fas sylweddol o bobl droibrofi yn Gristnogiontröedigaeth ni lwyddodd y diwygiad i atal dirywiad graddol Cristnogaeth yng Nghymru, megis ei atal rhyw ychydig dros dro y gwnaeth. Dywedir fod diffyg dyfnder i ddiwygiad 1904-1905, ac fe fethwyd a meithrin Cristnogion a ddaeth i ffydd yn y diwygiad yn effeithiol. Credir fod hyn o ganlyniad i ddiffyg pwyslais gan rai o'r arweinwyr ar ddysgeidiaeth Feiblaidd. Fe welwyd ôl-effaith y diwygiad yn hirachhwy yn yr ardaloedd a oedd ag arweinydd oedd yn rhoi pwyslais ar awdurdod y Beibl ond diflannu’n sydyn gwnaeth yr ôl-effaith mewn ardaloedd oedd ag arweinwyr oedd yn rhoi gormod o bwyslais ar yr Ysbryd ar draul dysgeidiaeth Feiblaidd.
 
Mae effaith Cristnogaeth ar Gymru, gellid dadlau, yn fwy na dylanwad Marcsiaeth ar Rwsia. Roedd diwygiad 1904-1905 yn gorwynt fel y nododd J.T Job, ond nid oedd yn deiffŵn y diwygiad Methodistaidd wedi ei ail adrodd.