Ynysoedd y Falklands: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegu gwybodaeth |
addasu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 52:
}}
Tiriogaeth sydd ym mherchnogaeth [[y Deyrnas Unedig]] yw '''Ynysoedd y Falklands''' neu '''Ynysoedd Malvinas''' ({{iaith-en|Falkland Islands}}, {{iaith-es|Islas Malvinas}}). Mae'r ynysoedd wedi eu lleoli yn [[hemisffer y de]] yng [[Cefnfor yr Iwerydd|Nghefnfor yr Iwerydd]], yn agos at [[yr Ariannin]]. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn [[Rhyfel y Falklands]].
== Enw ==
Daw enw Ynysoedd y Falklands o [[Swnt Falkland]], y sianel rhwng y ddwy brif ynys, a gafodd ei enwi ar ôl [[Anthony Cary, 5ed Is-iarll Falkland]] gan y Capten [[John Strong (morwr)|John Strong]] a laniodd ar yr ynysoedd ym 1690. Daw'r enw ''Malvinas'' o'r enw Ffrangeg ''Iles malouines'', oherwydd dyfodiad llawer o deithwyr o [[Sant-Maloù]] yn [[Llydaw]]. Enwir y ddinas honno, yn ei thro, am Sant [[Malo]] o [[Llancarfan|Lancarfan]], [[Bro Morgannwg]].
== Hanes ==
Darganfuwyd yr ynysoedd gan y Capten John Davis ar 9 Awst 1592, ond laniodd e ddim. Ym 1690, glaniodd y Capten John Strong a rhoi’r enw
▲Darganfuwyd yr ynysoedd gan Capten John Davis ar 9 Awst 1592, ond laniodd e ddim. Ym 1690, glaniodd y Capten John Strong a rhoi’r enw ‘[[Ynysoedd y Falklands|Falkland]]’ (ar ôl trysorydd y Llynges ar y pryd) i’r ynysoedd. Mae dwy brif ynys, East Falkland a West Falkland a 776 o ynysoedd llai (Wiki). Ym 1764, sefydlodd Ffrainc wladfa ar East Falkland ac enwi’r ynysoedd Les Iles Malouines - sef ‘Ynysoedd Malo’ ! Ym 1765, sefydlodd Prydain gaer ar Saunders Island yn y gogledd orllewin. Ym 1766, trosglwyddodd Ffrainc Les Iles Malouines i Sbaen ac addaswyd yr enw yn Sbaeneg i Las Islas [[Malvinas]]. Ym 1774, rhoddodd y Saeson y gorau i Saunders Island. Ym 1816, hawliwyd Las Malvinas gan y wladwriaeth newydd o Argentina a sefydlwyd presenoldeb milwrol yno rhwng 1820 ac 1833. Ym 1833, taflwyd yr Archentwyr allan ac ailfeddiannwyd The Falklands gan Brydain. Mae’r ynysoedd wedi aros yn Brydeinig hyd heddiw. I gadarnhau hawl Prydain i’r Falklands, cafodd nifer o bobl o Brydain eu perswadio i ymgartrefu ar yr ynysoedd. Mae poblogaeth yr ynysoedd heddiw (ac eithrio milwyr) tua 2,931 (2016).
[[Categori:Ynysoedd y Falklands| ]]
[[Categori:De America]]
[[Categori:Enwau daearyddol dadleuol]]
[[Categori:Gwledydd Saesneg]]
[[Categori:Tiriogaethau dadleuol]]
[[Categori:Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig]]
|