Eratosthenes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sw:Eratosthenes
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Eratosthenes.jpg|200px|bawd|Eratosthenes]]
Ysgolhaig Groegaidd[[Groeg]]aidd amryddawn (fl. [[275 CC]] - [[195 CC]] efallai), yn enedigol o ddinas [[Cyrene]], ar arfordir [[Gwlff Sidra]] (Syrtes) yn [[LybiaLibya]], [[Gogledd Affrica]].
 
== Bywyd ==
Dechreuodd ei [[addysg]] yn ei ddinas enedigol cyn symud i [[Athen]] i astudio [[athroniaeth]]. Rhoddodd ei ddarlith gyntaf ar athroniaeth yno. Yn [[247CC]] fe'i gwahoddwyd i [[Alecsandria]] gan [[Ptolemy II]] (Ptolemy Euergetes) i gymryd drosodd fel [[llyfrgell]]ydd yn lle [[Callimachus]] yn [[Llyfrgell Alecsandria|llyfrgell]] enwog y ddinas; yr ail yn unig i ddal y swydd honno. Mesurodd gylchedd [[Daear|y Ddaear]] a gradd yr ecliptig. Dywedir iddo farw o wrthod cymryd [[bwyd]] yn 195 C.C., gan fod ei [[Llygad|lygaid]] yn dechrau methu ac nid oedd yn medru parhau â'i waith.
 
== Gwaith ==
Roedd yn feistr ar bron pob cangen o [[Gwyddoniaeth|wyddoniaeth]] a [[dysg]] [[yr Hen Fyd]], gan gynnwys [[hanes]], [[daearyddiaeth]], [[geometreg]], [[seryddiaeth]], [[athroniaeth]], [[gramadeg]] a [[barddoniaeth]]. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl ''Pentathlos'' "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i [[Athletiaeth|athletwyr]] penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw ''Philologos'' "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled [[Strabo]], yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw:
 
*Y ''Geographica'' (3 llyfr). Ffynhonell bwysig yng ngwaith Strabo. Nid oes testun ohono wedi goroesi.
*Y ''Chronographia''. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a [[mathemateg]] i sefydlu [[cronoleg]] hanes.