Vitus Bering: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bg:Витус Беринг
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Vitus Jonassen Bering''', weithiau ''Behring'', (Awst [[1681]]-[[19 Rhagfyr]], [[1741]]) yn forwr a fforiwr [[Denmarc|Danaidd]] yn llynges [[Rwsia]], a adnabyddid gan y morwyr Rwsaidd fel '''Ivan Ivanovich'''. Ganed Bering yn [[Horsens]], [[Denmarc]] a bu farw ar [[Ynys Bering]], ger [[Gorynys Kamchatka]].
 
Wedi mordaith i India'r Dwyrain, ymunodd a'r llynges Rwsaidd yn [[1703]]. Priododd wraig o Rwsia, ac wedi ymweliad byr â Horsens yn [[1715]] ni ddychwelodd yno wedyn. Yn [[1725]], teithiodd ar dir i [[Okhotsk]], croesodd i Kamchatka, ac adeiladodd y llong ''Sviatoi Gavriil'' (''[[Gabriel|Sant Gabriel]]''). Ar y llong yma, hwyliodd Bering tua'r gogledd yn [[1728]], hyd na allai weld rhagor o dir tua'r gogledd na'r dwyrain.
 
Y flwyddyn wedyn bu'n chwilio am dir i'r dwyrain, gan ail-ddarganfod [[Ynys Ratmanov]], un o [[Ynysoedd Diomede]]. Yn [[1730]] dychwelodd i [[St Petersburg|Sant Petersburg]], ond yn ystod y daith hir trwy [[Siberia]] bu ef yn wael iawn a bu farw pump o'i blant. Dychwelodd i Okhotsk yn [[1735]], lle'r adeiladwyd dwy long: ''Sviatoi Piotr'' (''[[Sant Pedr]]'') a ''Sviatoi Pavel'' (''[[Sant Paul]]''). Yn [[1740]] sefydlodd [[Petropavlovsk-Kamchatsky|Petropavlovsk]] yn Kamchatka. Oddi yno hwyliodd i gyfeiriad [[Gogledd America]] yn [[1741]], gan gyrraedd arfordir deheuol [[Alaska]].
 
 
Ar y ffordd yn ôl, darganfuwyd rhai o [[Ynysoedd Aleutia]], ond dirywiodd iechyd Bering a bu raid glanio ar ynys ym [[Môr Bering]] lle bu farw ar 19 Rhagfyr 1741. Enwyd yr ynys ar ei ôl. Heblaw y môr a'r ynys, mae [[Culfor Bering]] yn dwyn ei enw.
 
{{DEFAULTSORT:Bering, Vitus}}
 
[[Categori:Genedigaethau 1681|Bering, Vitus]]
[[Categori:Marwolaethau 1741|Bering, Vitus]]
[[Categori:Daniaid]]
[[Category:Morwyr|Bering, Vitus]]
[[Category:Fforwyr]]
[[Categori:Mordeithiau|Bering, Vitus]]
[[Categori:Morwyr]]
 
[[bg:Витус Беринг]]