Panel solar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
mathau gwahanol
Llinell 20:
 
Mae angen gwefr bositif er mwyn i drydan llifo. Mae cyfuno silicon gydag elfen fel [[boron]], sydd â dim ond tri electron i gynnig yn creu gwefr bositif. Mae gan blat silicon a boron dal un lle ar agor ar gyfer electron arall. Felly, mae gan y plat wefr bositif. Caiff y ddwy blat eu glynnu at ei gilydd i greu paneli solar, gyda gwifrau dargludyddol yn rhedeg drwyddynt.
 
==Mathau gwahanol==
 
* Mae'r paneli di-ffurf (neu amorffws) yn gweithio'n dda pan nad oes llawer o oleuni. Mae lefel y math hwn felly yn cael ei alw'n 'effeithiolrwydd isel'; mae felly angen mwy o arwynebedd na gweddill y paneli. Fe'i defnyddir yn aml mewn hen ysguboriau ayb. Nid oes gan y rhain orchudd o wydr drostynt ac felly mae nhw'n ddelfrydol mewn llefydd sy'n agored i fandaliaeth ayb.
 
* Silicon yw defnydd celloedd policrisialaidd. Mae'n hawdd nabod y paneli hyn oherwydd eu lliw anghyffredin (glas fel arfer). Gall effeithiolrwydd amrywio'n fawr - yn dibynnu ar y broses o'u creu.
 
* Mae'r paneli monocrisialaidd hefyd yn defnyddio celloedd silicon i greu trydan. Sgwar ydy siap y celloedd unigol gyda'r ymylon wedi eu torri i ffwrdd. Du neu las tywyll ydy lliw y rhain, fel arfer.
 
* Mae'r math cymysg (neu heibrid) yn cynnwys haenen o'r math amorffws a haenen arall o'r math monocrisialaidd. Lliw du sydd i'r panel yma ac mae'n hynod o effeithiol. Fe'i defnyddir yn aml pan nad yw'r arwynebedd yn uchel, a'r lle yn brin.