W. F. Grimes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Archaeolegydd o Gymru oedd yr Athro '''William Francis Grimes''' (31 Hydref, 190525 Rhagfyr, 1988), a gyhoeddai wrth yr enw '''W. F. Grimes'''. Ei brif ...
 
Yn gwacau'r dudalen yn llwyr
Llinell 1:
[[Archaeoleg]]ydd o Gymru oedd yr Athro '''William Francis Grimes''' ([[31 Hydref]], [[1905]] – [[25 Rhagfyr]], [[1988]]), a gyhoeddai wrth yr enw '''W. F. Grimes'''. Ei brif feysydd oedd archaeoleg [[Llundain]] a [[cynhanes Cymru|chynhanes Cymru]]. Roedd yn frodor o [[Sir Benfro]].
 
Cafodd ei addysg brifysgol ym [[Prifysgol Cymru|Mhrifysgol Cymru]]. Bu'n Geidwad Cynorthwyol Adran Archaeoleg [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]], [[Caerdydd]], o 1926 hyd 1938. Bu'n llywydd [[Cymdeithas Archaeolegol Cambria|Cymdeithas Archaeolegol y Cambrian]], cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru ac ymgymerodd hefyd a sawl post cyhoeddus arall ym maes archaeoleg.
 
Yn ystod y 1950au a'r 1960au cloddiodd sawl gwaith yn Llundain yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr [[Amgueddfa Llundain]] a'r [[Astudfa Archaeoleg]], y sefydliad o fewn [[Prifysgol Llundain]] a sefydlwyd gan Syr [[Mortimer Wheeler]] yn 1937. Bu'n athro archaeoleg yno hyd ei ymddeol yn 1973.
 
Un o ddarganfyddiadau pwysicaf Grimes oedd [[Teml Mithras|Mithraeum]] Llundain yn 1954, [[teml]] [[Rhufeiniaid|Rufeinig]] yn gysegredig i'r duw [[Mithras]]. Enghraifft gynnar o archaeoleg achub oedd hyn, gan fod y safle, a fomiywd yn y rhyfel, yn cael ei datblygu.
 
==Llyfryddiaeth ddethol==
*Grimes, W. F., ''The Megalithic Monuments of Wales'' (1936)
* ——, ''The Prehistory of Wales'' (1951)
* ——, 'Excavations in the City of London', yn Bruce-Mitford R.L.S. (gol.) ''Recent Archaeological Excavations in Britain'' (Llundain, 1956).
 
 
{{DEFAULTSORT:Grimes, W. F.}}
[[Category:Archaeolegwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir Benfro]]
[[Category:Genedigaethau 1905]]
[[Category:Marwolaethau 1988]]
 
[[en:W. F. Grimes]]