Tiwnis Fwyaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn gwacau'r dudalen yn llwyr
DerHexer (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 62.24.251.240 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Anatiomaros.
Llinell 1:
[[Delwedd:Karte_Tunis_MKL1888.png|250px|bawd|Ardal Tunis Fwyaf yn 1888]]
[[Delwedd:Tunis_satellite.jpg|250px|bawd|Ardal Tunis Fwyaf heddiw (delwedd lloeren)]]
Rhanbarth ddinesig yng ngogledd-ddwyrain [[Tunisia]] yw '''Tunis Fwyaf'''. Yn ogystal â'r brifddinas [[Tunis]] mae'n cynnwys y maerdrefi cylchynnol i'r gorllewin, ac ar lannau gogleddol a deheuol [[Llyn Tunis]]. Erbyn heddiw mae trefi arfordirol [[La Marsa]] a'r gyfres o drefi a phentrefi bach sy'n ffurfio stribyn o dir datblygiedig ar lan orllewinol [[Gwlff Tunis]] - o [[Sidi Bou Saïd]] i [[La Goulette]] - yn cael eu cyfrif yn rhan o Tunis Fwyaf hefyd. Yn ogystal mae stribyn arall o drefi ar lan ddeheuol Gwlff Tunis yn ffurfio estyniad dwyreiniol i'r ddinas, o [[Rades]] i [[Borj Cedria]].
 
Yr ardal hon oedd 'tir cartref' dinas hynafol [[Carthage]], a safai ar fryn y [[Byrsa]] hanner ffordd rhwng La Goulette a Sidi Bou Saïd heddiw. Mae natur y trefi a maerdrefi hyn yn amrywio'n fawr, o ardaloedd preswyl dosbarth gweithiol fel rhannau o [[Ariana]] i rai o'r mannau mwyaf breintiedig yn y wlad, fel [[La Marsa]] a Carthage. Mae'n cynnwys ardaloedd diwydiannol fel Mégrine a'i gweithfeydd cemegol a [[Rades]] i drefi glan môr dymunol fel La Goulette. Amcangyfrir fod tua 1.5 miliwn o bobl (neu hyd at 2 filiwn) yn byw yn yr ardal.
 
===Trefi a phentrefi Tunis Fwyaf===
Yn ogystal â [[Tunis]] - ''Ville Nouvelle'' a [[Medina Tunis]] - ceir y lleoedd canlynol (o'r de i'r gogledd, yn fras):
*[[Borj Cedria]]
*[[Hammam Lif]] (Hammam Lemf)
*Ez-Zahra
*[[Rades]]
*Mégrine
*[[Ben Arrous]]
*[[Manouba]]
*[[Bardo]]
*[[Ariana]]
*Le Bac
*[[La Goulette]]
*Khéredine
*El Kram
*[[Carthage]] (Salammbô, [[Byrsa]], Dermech, Hannibal, Présidence)
*[[Sidi Bou Saïd]]
*[[La Marsa]]
*Gammarth
 
===Gweler hefyd===
* [[Mosaïque FM]]
 
 
[[Categori:Tunis Fwyaf| ]]