Trystan ac Esyllt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn gwacau'r dudalen yn llwyr
DerHexer (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 62.24.251.240 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Anatiomaros.
Llinell 1:
[[Image:Leighton-Tristan and Isolde-1902.jpg|bawd|250px|Trystan ac Esyllt, gan Edmund Blair Leighton.]]
 
Chwedl o'r Canol Oesoedd a gysylltir a'r Brenin [[Arthur]] yw '''Trystan ac Esyllt'''.
 
Ceir gwahanol fersiynau o'r chwedl, ond yn y fersiwn fwyaf cyffredin, roedd [[Trystan]] yn nai i Arthur. Roedd Trystan yn danfon [[Esyllt]], merch [[Hywel fab Emyr Llydaw]] mewn rhai fersiynau, o [[Iwerddon]] i [[Cernyw|Gernyw]], lle roedd i briodi'r brenin [[March]]. Yn ystod y fordaith, yfodd Trystan ag Esyllt ddiod yr oedd mam Esyllt wedi ei baratoi ar gyfer y briodas, a syrthiasant mewn cariad a'i gilydd.
 
Wedi i'r brenin March ddarganfod hyn, mae'r cariadon yn ffoi i [[Fforest Broseliawnd]] yn [[Llydaw]]. Yn ddiweddaeach, clwyfir Trystan yn angheuol mewn brwydr yn erbyn March. Mae'n gyrru am Esyllt i'w iachau, ond erbyn iddi gyrraedd mae ef eisoes wedi marw.
 
Cyfansoddodd y bardd [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Béroul]], a flodeuai yn y [[12fed ganrif]], y gerdd ''[[Tristan]]'', fersiwn [[Eingl-Normaneg]] o chwedl Trystan ac Esyllt sydd wedi goroesi fel testun anghyflawn a darniog o tua 3000 llinell; dyma'r testun cynharaf o'r fersiwn "werinol" o'r chwedl yn llenyddiaeth y Ffrancod a'r Eingl-Normaniaid. Cynrychiolir y fersiwn "llysol" gan y drylliau o gerdd [[Thomas o Brydain]]). Ysgrifennodd yr [[Almaen]]wr [[Eilhart von Oberge]] ymdriniaeth o'r testun yn [[Almaeneg]], ac mae nifer o ddigwyddiadau o fersiwn Béroul yn ail-ymddangos yn y testun diweddarach a elwir yn '[[Chwedl rhyddiaith Trystan]]'.
 
Ceir llawer o gyfeiriadau at y chwedl yn Gymraeg, er enghraifft yn y [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] ac yng ngweithiau'r [[Gogynfeirdd]], a cheir cyfeiriad at [[Bledri ap Cydifor]] (fl. hanner cyntaf y 12fed ganrif) fel awdur un fersiwn cynnar o'r hanes, ond nid oes fersiwn Gymraeg o'r chwedl ei hun wedi goroesi.
 
[[Categori:Cylch Arthur]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
 
[[da:Tristan og Isolde]]
[[de:Tristan und Isolde]]
[[el:Τριστάνος και Ιζόλδη]]
[[en:Tristan and Iseult]]
[[es:Tristán]]
[[fr:Tristan et Iseut]]
[[it:Tristano ed Isotta]]
[[ja:トリスタンとイゾルデ (楽劇)]]
[[pl:Tristan i Izolda]]
[[sv:Tristan]]