Teyrnas Navarra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Leon 1030.png|bawd|250px|Teyrnas Pamplona dan Sancho yr Hynaf 1029-1035 Teyrnas yn rhan orllewinol y Pyreneau, yn cyfateb yn fras i diriogaethau hanesyddol [[Gwlad y... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:39, 6 Rhagfyr 2008
Leon 1030.png|bawd|250px|Teyrnas Pamplona dan Sancho yr Hynaf 1029-1035
Teyrnas yn rhan orllewinol y Pyreneau, yn cyfateb yn fras i diriogaethau hanesyddol Gwlad y Basg (Euskal Herria) oedd Teyrnas Navarra (Sbaeneg: Reino de Navarra. Datblygodd o Deyrnas Pamplona, a sefydlwyd yn 824 gan ei brenin cyntaf, Íñigo Arista.
Ar un adeg, ymestynnai'r deyrnas tu hwnt i Afon Ebro. Sefydlwyd y prifddinasoedd Basgaidd, Vitoria-Gasteiz a Donostia gan Sancho VI, brenin Navarra (Sancho y Doeth).
Parhaodd y deyrnas hyd ddechrau'r 16eg ganrif, pan oresgynnwyd y deyrnas gan Castilla ac Aragón yn 1512, i ddod yn rhan o Sbaen unedig. Ychydig yn ddiweddarach, daeth rhan ogleddol Navarra, Navarra Isaf, yn annibynnol ar Sbaen, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Ffrainc. x