Hen Wlad fy Nhadau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyhoeddi
B it
Llinell 4:
'''Hen Wlad fy Nhadau''' yw anthem genedlaethol [[Cymru]]. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan [[Evan James]] (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab [[James James]] (1833-1902) ym mis Ionawr [[1856]]. Roedd y ddau yn drigolion o [[Pontypridd|Bontypridd]].
 
Perfformiwyd y gân, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, [[Maesteg]] yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn [[Eisteddfod]] [[Llangollen]], [[1858]], ar ôl i [[Thomas Llewelyn]] o [[Aberdâr]] ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn [[Rhuthun]] y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn (caffi 'Siop Nain' heddiw), fel taflen, a chyhoeddwyd hi am y tro cyntaf yng nghyfrol Owain Alaw ''Gems of Welsh Melody''.
 
Gwnaed y recordiad [[Cymraeg]] cyntaf, sydd yn hysbys, yn [[Llundain]] ar [[11 Mawrth]] [[1899]], pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]].