Trypanosomiasis Affricanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "African trypanosomiasis"
 
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
 
'''Trypanosomiasis Affricanaidd,''' neu '''glefyd cysgu''', yw clefyd parasitig sy'n cael ei gludo gan bryfed ac mae'n effeithio pobl ac anifeiliaid eraill. Fe'i hachosir gan brotosoa o'r rhywogaeth'' Trypanosoma brucei. ''Ceir ddau fath gwahanol sy'n effeithio pobl, ''Trypanosoma brucei gambiense'' (TbG) a ''Trypanosoma brucei rhodesiense'' (TbR). Mae TBG yn achosi dros 98% o achosion hysbys. Trosglwyddir y ddau fel arfer gan frathiadau pryfed tsetse heintus ac maent fwyaf cyffredin mewn ardaloedd gwledig.
 
I gychwyn, yng nghyfnodau cynnar yr afiechyd, profa rhywun [[Twymyn|twymynau]], [[cur pen]], teimlad o gosi, a phoenau yn y cymalau. Daw symptomau felly i'r golwg rhwng un i dair wythnos wedi'r brathiad. Wedi i gyfnod o wythnosau i fisoedd fynd heibio dechreua'r ail gyfres o symptomau wrth i'r dioddefwr teimlo'n ddryslyd, cael trafferthion wrth gydsymud, dideimladrwydd a thrafferthion cysgu. Gwneir diagnosis drwy ddarganfod paraseit mewn rhwbiad o waed neu mewn hylif o nôd lymff. Yn aml, mae angen cynnal pigiadau yn y lwynau er mwyn gwahaniaethu rhwng y bennod gyntaf a'r ail bennod o'r clefyd.
 
Byddai atal clefydau difrifol yn golygu sgrinio'r boblogaeth sydd mewn perygl â [[Prawf gwaed|phrofion gwaed]] ar gyfer TbG. Mae'n haws trin y clefyd pan gaiff ei ganfod yn gynnar a chyn y daw symptomau niwrolegol i'r golwg. Gellir trin pennod gyntaf y clefyd gyda'r meddyginiaethau pentamidin neu suramin. Wrth geisio gwella'r ail bennod gellir cymryd eflornithin neu gyfuniad o nifurtimox ac eflornithine ar gyfer TbG. Er bod melarsoprol yn gweithio ar gyfer y ddwy bennod, fe'i defnyddir yn unig ar gyfer TbR, oherwydd gall arwain at sgîl-effeithiau difrifol. Heb driniaeth y mae dioddefwr yn debygol o farw o'r cyflwr.
 
Mae'r afiechyd yn cael ei basio'n rheolaidd mewn rhai rhanbarthau o Affrica Is-Sahara a cheir poblogaeth o oddeutu 70 miliwn mewn peryg mewn 36 o wledydd gwahanol. Ar hyn o bryd y mae 11,000 o bobl wedi'u heintio a daeth 2,800 o heintiau newydd i'r golwg yn 2015. Yn 2015 achosodd y clefyd oddeutu 3,500 o farwolaethau, i lawr o 34,000 yn 1990. Mae dros 80% o'r achosion uchod wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. O fewn hanes diweddar, gellir adnabod tri ffrwydrad sylweddol o'r clefyd: un o 1896 i 1906 yn bennaf yn [[Wganda]] a Basn y [[Congo]] a dau yn 1920 a 1970 mewn amryw o wledydd Affricanaidd. Fe'i hystyrir fel clefyd [[Trofannau|trofannol]] sydd wedi'i esgeuluso. Gall anifeiliaid megis [[Buwch|gwartheg]] gario'r clefyd a chael eu heintio, ac yn achosion felly, fe'i gelwir yn trypanosomiasis anifeiliaid.
[[Categori:Iechyd yn Affrica]]
 
== Cyfieiriadau ==
{{Cyfeiriadau}}
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]