Gasgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Daw'r enw o lwyth y [[Vascones]], efallai hynafiaid y [[Basgiaid]]. Y brifddinas hanesyddol oedd [[Auch]], gyda'r prif drefi eraill yn cynnwys [[Baiona]] (''Bayonne''), [[Bordeaux]], [[Dax]], [[Pau]] a [[Tarbes]]. Yr iaith leol yw [[Gasconeg]], sy'n dafodiaith o'r iaith [[Occitaneg]].
 
Yn y cyfnod Rhufeinig, trigai pobl yr [[Aquitani]] yn y tiriogaethau hyn; roedd eu hiaith hwy, [[Aquitaneg]], yn ffurf gynnar ar yr iaith [[Basgeg|Fasgeg]] neu'n perthyn yn agos. Dros y blynyddoedd, collwyd yr iaith yma. Yn [[297]], pan oedd yr ymerawdwr [[Diocletian]] yn ail-drefnu gweinyddiad yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], rhannwyd talaith [[Gallia Aquitania]] yn dair rhan, gyda'r diriogaeth i'r de o [[Afon Garonne]] yn dod yn dalaith [[Novempopulana]], oedd yn cyfateb yn fras i diriogaeth Gasgwyn. Yn ddiweddarach, daeth y rhan fwyaf o'r diriogaeth yn rhan o [[DugaiaethDugiaeth Vasconia|Ddugiaeth Vasconia]].