Trypanosomiasis Affricanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Byddai atal clefydau difrifol yn golygu sgrinio'r boblogaeth sydd mewn perygl â [[Prawf gwaed|phrofion gwaed]] ar gyfer TbG. Mae'n haws trin y clefyd pan gaiff ei ganfod yn gynnar a chyn y daw symptomau niwrolegol i'r golwg. Gellir trin pennod gyntaf y clefyd gyda'r meddyginiaethau pentamidin neu suramin. Wrth geisio gwella'r ail bennod gellir cymryd eflornithin neu gyfuniad o nifurtimox ac eflornithine ar gyfer TbG. Er bod melarsoprol yn gweithio ar gyfer y ddwy bennod, fe'i defnyddir yn unig ar gyfer TbR, oherwydd gall arwain at sgîl-effeithiau difrifol. Heb driniaeth y mae dioddefwr yn debygol o farw o'r cyflwr.
 
Mae'r afiechyd yn cael ei basio'n rheolaidd mewn rhai rhanbarthau o Affrica Is-Sahara a cheir poblogaeth o oddeutu 70 miliwn mewn peryg mewn 36 o wledydd gwahanol. Ar hyn o bryd y mae 11,000 o bobl wedi'u heintio a daeth 2,800 o heintiau newydd i'r golwg yn 2015. Yn 2015 achosodd y clefyd oddeutu 3,500 o farwolaethau, i lawr o 34,000 yn 1990. Mae dros 80% o'r achosion uchod wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. O fewn hanes diweddar, gellir adnabod tri ffrwydrad sylweddol o'r clefyd: un o 1896 i 1906 yn bennaf yn [[Wganda]] a Basn y [[Congo]] a dau yn 1920 a 1970 mewn amryw o wledydd Affricanaidd. Fe'i hystyrir fel clefyd [[Trofannau|trofannol]] sydd wedi'i esgeuluso. Gall anifeiliaid megis [[Buwch|gwartheg]] gario'r clefyd a chael eu heintio, ac yn achosion felly, fe'i gelwir yn trypanosomiasis anifeiliaid.<ref name=WHO2013/><br>'''Stage 2''': [[Insomnia|Trouble sleeping]], [[confusion]], [[Ataxia|poor coordination]]<ref name=Lancet2013/><ref name=WHO2013/>
 
[[Categori:Iechyd yn Affrica]]
 
 
== Cyfieiriadau ==
{{Cyfeiriadau}}
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]
[[Categori:Iechyd yn Affrica]]