Trypanosomiasis Affricanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
I gychwyn, yng nghyfnodau cynnar yr afiechyd, profa rhywun [[Twymyn|twymynau]], [[cur pen]], teimlad o gosi, a phoenau yn y cymalau. Daw symptomau felly i'r golwg rhwng un i dair wythnos wedi'r brathiad. Wedi i gyfnod o wythnosau i fisoedd fynd heibio dechreua'r ail gyfres o symptomau wrth i'r dioddefwr teimlo'n ddryslyd, cael trafferthion wrth gydsymud, dideimladrwydd a thrafferthion cysgu. Gwneir diagnosis drwy ddarganfod paraseit mewn rhwbiad o waed neu mewn hylif o nôd lymff. Yn aml, mae angen cynnal pigiadau yn y lwynau er mwyn gwahaniaethu rhwng y bennod gyntaf a'r ail bennod o'r clefyd.
 
Byddai atal clefydau difrifol yn golygu sgrinio'r boblogaeth sydd mewn perygl â [[Prawf gwaed|phrofion gwaed]] ar gyfer TbG. Mae'n haws trin y clefyd pan gaiff ei ganfod yn gynnar a chyn y daw symptomau niwrolegol i'r golwg. Gellir trin pennod gyntaf y clefyd gyda'r meddyginiaethau pentamidin neu suramin. Wrth geisio gwella'r ail bennod gellir cymryd eflornithin neu gyfuniad o nifurtimox ac eflornithine ar gyfer TbG. Er bod melarsoprol yn gweithio ar gyfer y ddwy bennod, fe'i defnyddir yn unig ar gyfer TbR, oherwydd gall arwain at sgîl-effeithiau difrifol. Heb driniaeth y mae dioddefwr yn debygol o farw o'r cyflwr.<ref name=Lancet2013>{{cite journal|last=Kennedy|first=PG|title=Clinical features, diagnosis, and treatment of human African trypanosomiasis (sleeping sickness).|journal=Lancet Neurology|date=Feb 2013|volume=12|issue=2|pages=186–94|pmid=23260189|doi=10.1016/S1474-4422(12)70296-X}}</ref> While [[melarsoprol]] works for both stages, it is typically only used for TbR, due to serious side effects.<ref name=WHO2013/> Without treatment it typically results in death.<ref name=WHO2013/>
 
Mae'r afiechyd yn cael ei basio'n rheolaidd mewn rhai rhanbarthau o Affrica Is-Sahara a cheir poblogaeth o oddeutu 70 miliwn mewn peryg mewn 36 o wledydd gwahanol. Ar hyn o bryd y mae 11,000 o bobl wedi'u heintio a daeth 2,800 o heintiau newydd i'r golwg yn 2015. Yn 2015 achosodd y clefyd oddeutu 3,500 o farwolaethau, i lawr o 34,000 yn 1990. Mae dros 80% o'r achosion uchod wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. O fewn hanes diweddar, gellir adnabod tri ffrwydrad sylweddol o'r clefyd: un o 1896 i 1906 yn bennaf yn [[Wganda]] a Basn y [[Congo]] a dau yn 1920 a 1970 mewn amryw o wledydd Affricanaidd. Fe'i hystyrir fel clefyd [[Trofannau|trofannol]] sydd wedi'i esgeuluso. Gall anifeiliaid megis [[Buwch|gwartheg]] gario'r clefyd a chael eu heintio, ac yn achosion felly, fe'i gelwir yn trypanosomiasis anifeiliaid.