Beibl 1588: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhyngwici
llun
Llinell 1:
'''Beibl 1588''' oedd y fersiwn llawn cyntaf o'r [[Y Beibl|Beibl]] i ymddangos yn Gymraeg. Yr Esgob [[William Morgan (esgob)|William Morgan]] ([[1545]] - [[10 Medi]] [[1604]]), ficer [[Llanrhaeadr-ym-Mochnant]] ynghyd â [[Llanarmon Mynydd Mawr]] ar y pryd, oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith. Credir yn gyffredinol mai cyhoeddi'r Beibl hwn yn gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi.
 
[[Delwedd:Labeltestament1967.png|150px|bawd|Stamp answyddogol yn dathlu pedwerydd ganmlwyddiant Testament Newydd 1567 (1567-1967)]]
Roedd cyfieithiad [[William Salesbury]] o'r [[Testament Newydd]] wedi bod ar gael ers [[1567]], ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Erbyn [[1587]] roedd William Morgan wedi gorffen cyfieithu'r [[Hen Destament]], y Testament Newydd a'r [[Apocrypha]], ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg yn [[1588]].