Marchogion yr Ysbyty: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Llinell 1:
Urdd [[sifalri]]aidd a sefydlwyd yn [[Jeriwsalem]] yn yr [[11eg ganrif]] oedd '''Marchogion yr Ysbyty''' (neu'r '''Ysbytywyr'''; [[Ffrangeg]] ''Hospitaliers''), a adnabyddir hefyd gan ei enw llawn '''Urdd Marchogion Ysbyty Sant Ifan a Jeriwsalem'''. Urdd grefyddol filwrol ydoedd. Fe'i sefydlwyd gyda'r bwriad o hyrwyddo'r [[Croesgadau]] yn [[y Tir Sanctaidd]] a chynorthwyo [[Pererindod|pererinion]] i ymweld â chysegrfannau [[Cristnogaeth|Cristnogol]] yn y [[Lefant]].
 
===Hanes===
Cychwyn yr urdd oedd sefydlu ysbyty ar gyfer pererinion yn [[Jeriwsalem]] tua'r flwyddyn [[1070]]. Wrth i'r croesgadu dyfu ac ymledu chwareai'r urdd ran fwy milwrol. Cyn hir roedd yr Ysbytywyr yn gyfoethog iawn. Eu cystadleuwyr pennaf oedd urdd y [[Templariaid]].
 
Ar ôl cwymp dinas [[Acre]] yn [[1291]] ymsefydlasant yn [[Cyprus|Nghyprus]], [[Rhodes]] a [[Malta]].
 
===Cymru===
Mae enw pentref [[Ysbyty Ifan]] (Sir [[Conwy (sir)|Conwy]]), 6 milltir i'r de-ddwyrain o [[Betws-y-Coed|Fetws-y-Coed]], yn nodi'r ffaith fod un o "ysbytai" yr urdd yno. Fe'i sefydlwyd yn y flwyddyn [[1190]] gan Ifan Frys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Roedd gan yr ysbyty, a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i [[Ynys Enlli]], yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac arweiniodd hynny i sawl [[herwr]] ymguddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y [[15fed ganrif]] pan roddodd yr uchelwr lleol [[Maredudd ap Ieuan]] derfyn iddo.
 
 
{{eginyn Cristnogaeth}}
{{eginyn hanes}}
[[Categori:Marchogion yr Ysbyty| ]]
[[Categori:Cristnogaeth]]
[[Categori:Hanes Ewrop]]
[[Categori:Hanes y Dwyrain Canol]]
[[Categori:Urddau milwrol]]
[[Categori:Y Croesgadau]]
[[Categori:CristnogaethYr Oesoedd Canol]]
{{eginyn Cristnogaeth}}
{{eginyn hanes}}
 
[[an:Orden d'o Espital]]