Mynydd Hermon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: {{mynydd | enw =Mynydd Hermon | mynyddoedd =Mynyddoedd Antilibanus | darlun =Hermonsnow.jpg | maint_darlun =200px | caption =Mynyd...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:17, 10 Rhagfyr 2008


Mynydd yn y Dwyrain Canol yw Mynydd Hermon (Arabeg: Jebel el Al Shaikh, Hebraeg: הר חרמון}}, Har Hermon). Saif ym mynyddoedd Antilibanus, gyda'r copa ar y ffîn rhwng Libanus a Syria. Mae tua 100km2 o'r llethrau de-orllewinol dan reolaeth Israel ers y Rhyfel Chwe Niwrnod yn 1967; cyhoeddodd Israel yn 1980 fod y diriogaeth yma yn cael ei hymgorffori. Mae gan Syria ac Israel arsyllfeydd milwrol ar lethrau'r mynydd.

Mynydd Hermon
Mynyddoedd Antilibanus
Mynydd Hermon
Llun Mynydd Hermon
Uchder 2,814 m (9,230 troedfedd)
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Libanus/Syria/Israel

Mae Mynydd Hermon yn enwog am ei harddwch, a chanodd llawer o feirdd Hebraeg ac Arabeg iddo. Ceir tarddle Afon Iorddonen ar ei lethrau, a cheir nifer o gyfeiriadau ato yn y Beibl.