Bwydo o'r fron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''bwydo ar y fron''' yn digwydd pan fo mam yn bwydo [[llaeth]] i'w baban o gynnyrch hylifol ei [[Bron|bronnau]]. Mae'r babi yn rhoi ei geg o amgylch [[Teth (corff)|teth]] y fam ac yn sugno'r llaeth allan o'r fron. Mae llaeth y fron yn gyffredinol iachach ar gyfer y babi na [[llaeth fformiwla]] neu [[Llaeth buwch|laeth buwch]]. Nid yw pob merch yn gallu bwydo ei babi yn ddiogel. Os oes gan fenyw [[clefyd]] neu os yw hi'n cymryd [[Cyffur|cyffuriau]] (boed cyfreithlon neu anghyfreithlon) gall llaeth y bron niweidio'r baban wrth i'r clefyd neu'r cyffur cael ei drosglwyddo o'r fam i'r babi.
 
Mae sawl rheswm dros gymeradwyo bwydo ar y fron. Mae babanod sy'n bwydo ar y fron o dan lai o risg o ddioddef nifer o glefydau wrth i [[imiwnedd caffael]] cael ei drosglwyddo o'r fam i'r baban. Mae bwyd o'r fron yn gwneud bwydo a gofal iechyd yn rhatach. Mewn gwledydd datblygedig ac yn arbennig mewn gwledydd sy'n datblygu, mae bwydo ar y fron heb roi unrhyw ddiodydd eraill i'r babi, yn arwain at lai o farwolaethau o'r [[dolur rhydd]].

Mae arbenigwyr yn cytuno mai llaeth y fron yw'r maeth orau i fabi, ond nid yw pawb yn cytuno am ba mor hir y dylai mamau fwydo ar y fron, a pha mor ddiogel yw llaeth powdr masnachol.
 
{{eginyn iechyd}}