86,744
golygiad
(ehangu) |
(ehangu) |
||
Un o [[Rhanbarthau Cymru|ranbarthau]] answyddogol [[Cymru]] sydd yng nghanol y wlad yw '''Canolbarth Cymru'''. Mae'n ffinio â [[Gogledd Cymru]] i'r gogledd, Gororau [[Lloegr]] i'r dwyrain, [[De Cymru|De]] a [[Gorllewin Cymru]] i'r de a [[Bae Ceredigion]] i'r gorllewin. Mae'n cynnwys bryniau'r [[Elenydd]], [[Fforest Faesyfed]] a rhan o'r [[Berwyn]], a'r afonydd [[Afon Teifi|Teifi]], [[Afon Gwy|Gwy]], [[Afon Hafren|Hafren]] ac [[Afon Ystwyth|Ystwyth]].
==Disgrifiad==
Yn hanesyddol, roedd Canolbarth Cymru yn cynnwys [[Teyrnas Powys]] a gogledd-ddwyrain [[Teyrnas Deheubarth]]. Heddiw, mae'n cynnwys [[Siroedd a Dinasoedd Cymru|siroedd]] [[Ceredigion]] a [[Powys|Phowys]].
Ceir ymraniadau sylweddol yn ddaearyddol a diwylliannol o fewn y rhanbarth. I'r gorllewin o fynydd [[Pumlumon]] a bryniau [[Elenydd]] ceir Ceredigion, sir sy'n wynebu ar Fae Ceredigion ac yn perthyn yn agosach, yn hanesyddol, i [[Sir Benfro]] a [[Sir Gaerfyrddin]] ([[de-orllewin Cymru]]) nag i Bowys. Mae Powys yntau, sef dwyrain y rhanbarth, yn llawer mwy [[Cymraeg]] yn y parthau gorllewinol nag yn yr ardaloedd ar hyd y ffin â Lloegr a fu'n rhan o'r [[Y Mers|Mers]] canoloesol. Mae cryn wahaniaeth rhwng gogledd a de Powys hefyd.
==Unedau gweinyddol, hen a newydd==
===Siroedd presennol===
Creuwyd y siroedd presennol fel awdurdodau unedol yn 1996.
*[[Ceredigion]]
*[[Powys]]
===Siroedd cadwedig===
Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.
*[[Dyfed]] (gorwedd Ceredigion yng ngogledd yr hen sir)
*[[Powys]] (mae Powys heddiw yn dal i gyfrif fel 'sir gadwedig' yn ogystal â bod yn awdurdod unedol cyfoes)
===Siroedd cyn 1974===
Creuwyd y siroedd hyn dan y drefn Seisnig rhwng 1284 a 1536. Cawsont eu dileu neu eu hail-lunio yn 1974.
*[[Sir Aberteifi]] (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i sir Ceredigion heddiw)
*[[Sir Frycheiniog]]
*[[Sir Faesyfed]]
*[[Sir Faldwyn]]
==Gweler hefyd==
|