De Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 4:
[[Rhanbarthau Cymru|Rhanbarth]] answyddogol mwyaf deheuol [[Cymru]] yw '''De Cymru''', sy'n ffinio â [[Canolbarth Cymru|Chanolbarth Cymru]] i'r gogledd, [[Lloegr]] i'r dwyrain, [[Môr Hafren]] i'r de a [[Gorllewin Cymru]] i'r gorllewin. Mae'n cynnwys [[cymoedd De Cymru]] a [[Bannau Brycheiniog]], a'r afonydd [[Afon Wysg|Wysg]], [[Afon Ogwr|Ogwr]], a [[Afon Tâf (Caerdydd)|Thâf]].
 
==Diffinio'r rhanbarth==
Yn hanesyddol, bu'r fwyaf o De Cymru yn rhan o deyrnasoedd [[Teyrnas Gwent|Gwent]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]]. Heddiw, mae'n cynnwys [[Siroedd a Dinasoedd Cymru|siroedd]] [[Merthyr Tudful (sir)|Merthyr Tudful]], [[Caerffili (sir)|Caerffili]], [[Blaenau Gwent]], [[Torfaen]], [[Sir Fynwy|Mynwy]], [[Casnewydd (sir)|Casnewydd]], [[Caerdydd]], [[Bro Morgannwg]], [[Pen-y-bont ar Ogwr (sir)|Pen-y-bont ar Ogwr]], [[Rhondda Cynon Taf]], a [[Castell-nedd Port Talbot|Chastell-nedd Port Talbot]].
 
Er ei bod yn arfer defnyddio'r term 'De Cymru' am yr ardal hon, mewn termau daearyddol pur mae '''de-ddwyrain Cymru''' yn gywirach, gyda 'De Cymru' yn enw priodol am [[de-orllewin Cymru|dde-orllewin Cymru]] ("[[Gorllewin Cymru]]") a'r de-ddwyrain gyda'i gilydd. Yn ôl y drefn honno, rhennir Cymru yn dri rhanbarth, sef y [[Gogledd Cymru|Gogledd]], y [[Canolbarth Cymru|Canolbarth]] a'r De.
 
==Unedau gweinyddol, hen a newydd==
===Siroedd presennol===
Creuwyd y siroedd, bwrdeisdrefi sirol a dinasoedd sirol presennol fel awdurdodau unedol yn 1996.
*[[Blaenau Gwent|Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent]]
*[[Bro Morgannwg]] (sir)
*[[Caerdydd|Dinas Caerdydd]]
*[[Caerffili (sir)|Bwrdeisdref Sirol Caerffili]]
*[[Casnewydd (sir)|Bwrdeisdref Sirol Casnewydd]]
*[[Castell-nedd Port Talbot|Bwrdeisdref Sirol Castell-nedd Port Talbot]]
*[[Sir Fynwy]]
*[[Merthyr Tudful (sir)|Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful]]
*[[Pen-y-bont ar Ogwr (sir)|Pen-y-bont ar Ogwr]]
*[[Rhondda Cynon Taf]]
*[[Torfaen|Bwrdeisdref Sirol Torfaen]]
 
===Siroedd cadwedig===
Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.
*[[Gwent]]
*[[Morgannwg]] (heb sir Abertawe yn rhan orllewinol y sir)
 
===Siroedd cyn 1974===
Creuwyd y siroedd hyn dan y drefn Seisnig rhwng 1284 a 1536. Cawsont eu dileu neu eu hail-lunio yn 1974.
*[[Sir Forgannwg]] (heb ran orllewinol yr hen sir, er bod tuedd i gynnwys Sir Forgannwg gyfan yn 'Ne Cymru')
*[[Sir Fynwy]] (llawer mwy sylweddol na'r sir bresennol o'r un enw, yn cyfateb yn fras i Went)
 
==Gweler hefyd==
*[[Gwent]]
*[[Morgannwg]]
*[[Rhanbarthau Cymru]]
 
{{Rhanbarthau Cymru}}