Hanes Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
Yn [[Rhyfel Olyniaeth Lydaw]], rhwng [[1341]] a [[1364]], fe wrthdarodd cynghreiriaid [[Lloegr]] yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Yn [[1488]] gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r [[Swistir]] a'r [[Eidal]]. Gorfodwyd Dug Llydaw, Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas ei ferch, [[Anna, Duges Llydaw|Anna]]. Y Dduges Anna oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol; gorfodwyd hi i briodi [[Louis XII, brenin Ffrainc]], a phan fu hi farw ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn [[1532]]. Roedd gan Llydaw rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan [[1789]]. Gwrthryfel yn erbyn y [[Chwyldro Ffrengig]] oedd y ''[[Chouanted]]'', a gefnogwyd gan y Saeson.
 
Datblygodd y [[Cenedlaetholdeb Llydewig|mudiad cenedlaethol Llydewig]] modern tua diwedd y [[19eg ganrif]] a dechrau'r [[20fed ganrif]]. Pan orchfygwyd Ffrainc gan [[Yr Almaen]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]], bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis [[Roparz Hemon]] gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw. Yn Rhagfyr [[1943]] llofruddiwyd [[Yann-Vari Perrot|yr Abbé Perrot]], cenedlaetholwr Llydewig amlwg, gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, gan haeru ei fod yn cydweithio a'r Almaenwyr. Bu raid i eraill, megis Roparz Hemon, ffoi i Gymru ac [[Iwerddon]] ar ddiwedd y rhyfel, a bu adwaith cryf ar ran llywodraeth Ffrainc yn erbyn yr iaith a'r diwylliant Llydewig.
 
Pan rannwyd Ffrainc yn ranbarthau gweinyddol, nid oedd rhanbarth ''[[Bretagne]]'' ond yn cynnwys pedwar allan o'r pump ''departement'' oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd [[Loire-Atlantique]], sy'n cynnwys [[Nantes]], un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers [[1945]]; mewn llawer o ardaloedd lle siaredid yr iaith, magwyd plant a aned ers y cyfnod yma yn uniaith Ffrangeg. Ers y 1970au bu cynnydd mewn diddordeb yn iaith a diwylliant Llydaw, yn arbennig mewn cerddoriaeth, lle daeth [[Alan Stivell]] yn adnabyddus.Mae mudiad [[Diwan]] wedi sefydlu ysgolion Llydaweg i geisio achub yr iaith.