Y Punch Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cylchgrawn dychanol Cymraeg o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd '''''Y Punch Cymraeg'''''. Fe'i bwriedid fel math o fersiwn Cymreig o'r cylchgrawn Seisnig enwog ''[[Pun...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Cylchgrawn]] [[dychan]]ol [[Cymraeg]] o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd '''''Y Punch Cymraeg'''''. Fe'i bwriedid fel math o fersiwn Cymreig o'r cylchgrawn Seisnig enwog ''[[Punch (cylchgrawn)|Punch]]''. Fe'i cyhoeddid yng [[Caergybi|Nghaergybi]].
 
Lawnsiwyd ''Y Punch Cymraeg'' ar Ionawr 1af, [[1858]]. Y sylfaenwr a golygydd cyntaf oedd [[Lewis Jones (Patagonia)|Lewis Jones]], o [[Caernarfon|Gaernarfon]] yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaergybi, a ymfudodd yn nes ymlaen i [[Patagonia|Batagonia]] lle bu ganddo ran bwysig yn hanes sefydlu'r [[Y Wladfa|Wladfa]] ym Mhatagonia. Ymunodd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn fuan ar ôl sefydlu'r cylchgrawn. Roedd y ddau ŵr hyn yn gyd-olygyddion yn y swyddfa yng Nghaergybi ac yn ysgrifennu cyfran sylweddol o'r erthyglau.
 
Cyhoeddiad pythefnosol o 32 tudalen oedd ''Y Punch Cymraeg'', a'i bris oedd [[ceiniog]]. Cafodd dderbyniad da a chyrhaeddodd uchafbwynt cylchrediad o dros 8,000 o gopïau.