Lol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
cat
Llinell 1:
[[Cylchgrawn]] [[Cymraeg]] dychanol[[dychan]]ol yw '''''Lol'''''. Sefydlwyd y [[cylchgrawn]] gan Penri Jones a [[Robat Gruffudd]] ym [[Bangor|Mangor]] yn [[1965]]. Dyfeisiwyd yr enw [[Y Lolfa]] yn arbennig ar gyfer cyhoeddi'r cylchgrawn. Argraffwyd y ddau rifyn cyntaf gan gwmnïau yng [[Carndiffaith|Ngharndiffaith]] a [[Caerdydd|Chaerdydd]].
 
Y bwriad gwreiddiol oedd creu cylchgrawn ysgafn, poblogaidd ar gyfer pobl ifainc yn bennaf ond gyda chyhoeddi'r trydydd rhifyn yn 1967 yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967|Eisteddfod y Bala]] — y rhifyn cyntaf i'r Lolfa ei hun ei argraffu — cymerodd y cylchgrawn dro i gyfeiriad mwy [[dychan]]ol. Cafwyd prawf buan o hyn yn ymateb ffyrnig [[Cynan]] i eiriau amdano a ymddangosodd ar draws bronnau rhyw ferch. Bygythiodd Y Lolfa ag achos enllib ond fe setlwyd y mater yn ddeheuig gan [[Robin Lewys]], yn gweithredu ar ran y cwmni, a chyfreithiwr Cynan.
Llinell 8:
 
Mae'r cylchgrawn yn awr, dan yr enw '''''Dim Lol''''', yn cael ei gyhoeddi gan gwmni Pendinas, sydd yn is-gwmni i [[Y Lolfa]]. Mae'n gwerthu tua 4,000 y flwyddyn a hynny heb unrhyw gymorth ariannol gan y llywodraeth — un o'r ychydig iawn o gylchgronau Cymraeg a all honni hynny.
 
 
[[Categori:Cylchgronau Cymraeg]]
[[Categori:Cylchgronau dychanol]]
[[Categori:Sefydliadau 1965]]