Canser y pancreas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''canser y [[pancreas]]''' yn datblygu pan fydd nifer y [[Cell|celloedd]] yn y pancreas, organ chwarennol y tu ôl i'r [[stumog]], yn lluosi'n afreolaidd. Gall y celloedd canseraidd yma ymosod ar rannau eraill o'r corff.<ref name=NCI2014Def>{{cite web|title=What is Cancer? Defining Cancer|url=http://www.cancer.gov/cancertopics/cancerlibrary/what-is-cancer|publisher=National Cancer Institute, National Institutes of Health|date=7 March 2014|accessdate=5 December 2014|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20140625220940/http://www.cancer.gov/cancertopics/cancerlibrary/what-is-cancer|archivedate=25 June 2014|df=dmy-all}}</ref> Ymddangosa canser y pancreas mewn gwahanol ffyrdd. '''Adenocarsinoma pancreatig''' yw'r cyflwr mwyaf cyffredin (oddeutu 85% o achosion) ac fe ddefnyddir y term [[canser]] y pancreas weithiau i gyfeirio at y math hwn yn benodol. Y mae'r adenocarsinomata yn cychwyn o fewn gofod yn y pancreas sy'n creu [[Ensym|ensymau]] traul. Gall y celloedd uchod arwain at fathau eraill o ganserau'r pancreas. Gelwir 1-2% o achosion yn diwmorau niwroendocrin ac y mae'r rhain yn deillio o'r celloedd sy'n cynhyrchu [[hormon]] y pancreas. Ar y cyfan, nid yw'r cyflwr hwn mor ymosodol â adenocarcinoma pancreatig.
 
Gall y ffurf fwyaf cyffredin arwain at symptomau'n cynnwys croen melyn, poenau ynghylch yr [[abdomen]] neu [[Cefn|gefn]], colli pwysau yn annisgwyl, goleuo yn y carthion, tywyllu yn lliw wrin a cholli awydd bwyd. Fel rheol, ni ymddangosir [[Symptom|symptomau]] ym mhenodau cynnar yr afiechyd, ac fel rheol, ymddangosir y symptomau penodol uchod wedi i'r canser datblygu'n sylweddol, ac o bosib y tu hwnt i'r pancreas.<ref name=NEJM14>{{cite journal | vauthors = Ryan DP, Hong TS, Bardeesy N | title = Pancreatic adenocarcinoma | journal = N. Engl. J. Med. | volume = 371 | issue = 11 | pages = 1039–49 | date = September 2014 | pmid = 25207767 | doi = 10.1056/NEJMra1404198 | url = http://www.enotes.us/Pancreatic_Ca2014.pdf | deadurl = no | archiveurl = https://web.archive.org/web/20141226144755/http://www.enotes.us/Pancreatic_Ca2014.pdf | archivedate = 26 December 2014 | df = dmy-all }}</ref> Felly'n aml iawn, erbyn y cyfnod [[Diagnosis meddygol|diagnosis,]] y mae canser y pancreas wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff.<ref name="Bond-Smith">{{cite journal | vauthors = Bond-Smith G, Banga N, Hammond TM, Imber CJ | title = Pancreatic adenocarcinoma | journal = BMJ (Clinical research ed.) | volume = 344 | page = e2476 | year = 2012 | pmid = 22592847 | doi = 10.1136/bmj.e2476 | url = http://www.wessexcolorectalclinic.com/app/download/5789745892/2012_PancreaticAdenocarcinoma_BMJ.pdf | deadurl = yes | archiveurl = https://web.archive.org/web/20150109071550/http://www.wessexcolorectalclinic.com/app/download/5789745892/2012_PancreaticAdenocarcinoma_BMJ.pdf | archivedate = 9 January 2015 | df = dmy-all }}</ref>
 
Nid yw canser y pancreas yn effeithio ar lawer sydd o dan 40 mlwydd oed, a cheir mwy na hanner o achosion adenocarsinoma pancreatig yn taro unigolion dros 70. Ymhlith y ffactorau risg y mae arfer [[ysmygu]] tybaco, [[gordewdra]], [[clefyd y siwgr]], a rhai cyflyrau genetig prin. Achosir oddeutu 25% o achosion gan ysmygu a 5-10% gan enynnau etifeddol. Fel rheol, gwneir diagnosis drwy gyfuniad o dechnegau, gan gynnwys delweddu meddygol megis uwchsain neu tomograffeg cyfrifiadurol, [[Prawf gwaed|profion gwaed]], ac archwilio samplau [[meinwe]] ([[biopsi]]). Gellir rhannu'r clefyd yn benodau, o'r cychwyn (pennod I) i'r ffurf ddatblygedig (cyfnod IV). Nid yw sgrinio'r boblogaeth yn gyffredinol wedi arwain at ganlyniadau effeithiol. <ref name="Bussom2010">{{cite journal | vauthors = Bussom S, Saif MW | title = Methods and rationale for the early detection of pancreatic cancer. Highlights from the "2010 ASCO Gastrointestinal Cancers Symposium". Orlando, FL, USA. January 22–24, 2010 | journal = JOP : Journal of the pancreas | volume = 11 | issue = 2 | pages = 128–30 | date = 5 March 2010 | pmid = 20208319 | url = http://www.joplink.net/prev/201003/19.html | deadurl = no | archiveurl = https://web.archive.org/web/20141208001305/http://www.joplink.net/prev/201003/19.html | archivedate = 8 December 2014 | df = dmy-all }}</ref>
 
Gellir trin canser y pancreas drwy [[Llawfeddygaeth|lawdriniaeth]], [[radiotherapi]], [[cemotherapi]], gofal lliniarol, neu gyfuniad o'r uchod. Mae'r driniaeth a gynigir yn rhannol ddibynnol ar bennod a lledaeniad y canser. Llawfeddygaeth yw'r unig driniaeth a all wella adenocarsinoma pancreatig, a gellir defnyddio'r dull hwnnw hefyd i wella ansawdd bywyd dioddefwyr nad sy'n debygol o wella'n gyfan gwbl.<ref name="PDQ2014">{{cite web|title=Pancreatic Cancer Treatment (PDQ®) Patient Version|url=http://www.cancer.gov/cancertopics/pdq/treatment/pancreatic/Patient/page1/AllPages|website=National Cancer Institute|publisher=National Institutes of Health|accessdate=8 June 2014|date=17 April 2014|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20140705120519/http://www.cancer.gov/cancertopics/pdq/treatment/pancreatic/Patient/page1/AllPages|archivedate=5 July 2014|df=dmy-all}}</ref> Weithiau y mae gofyn defnyddio [[Meddyginiaeth|meddyginiaethau]] rheoli poen er mwyn gwella treuliad. Argymhellir triniaethau gofal lliniarol, a hynny mor fuan â phosib ym mhenodau’r cyflwr, hyd yn oed mewn achosion sy'n anelu at wellhad llawn.
 
Yn 2015, arweiniodd yr amrywiol canserau uchod at 411,600 o farwolaethau'n fyd-eang. Canser y pancreas yw'r pumed canser mwyaf cyffredin i achosi marwolaethau yn y [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]], a'r pedwerydd mwyaf cyffredin yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]]. Effeithia'r byd datblygedig ar raddfa helaethach na'r byd datblygol (70% o achosion yn 2012). Y mae'r broses prognosis ynghylch adenocarsinoma pancreatig yn bur anfoddhaol, ar ôl derbyn diagnosis, y mae oddeutu 25% o bobl yn byw dros gyfnod o flwyddyn a dim ond 5% sy'n goroesi dros bum mlynedd. Ar gyfer yr achosion penodau cynnar codir y gyfradd goroesi dros bum mlynedd i oddeutu 20%. Ceir canlyniadau gwell mewn achosion o ganser niwroendocrin, gyda 65% o ddioddefwyr yn byw o leiaf pum mlynedd wedi'r diagnosis, er y mae'r ffigwr hwnnw'n amrywio'n sylweddol ym mhob tiwmor.