Teyrnas Valencia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
map
treiglo
Llinell 3:
Sefydlwyd '''Teyrnas Valencia''' (''Regne de Valencia'') yng ngogledd-ddwyrain [[Sbaen]] yn [[1237]], fel is-deyrnas gan [[Coron Aragon|Goron Aragon]]. Parhaodd hyd [[1707]]. Roedd ei ffiniau yn debyg i ffiniau [[Valencia (cymuned ymreolaethol)|Cymuned Ymreolaethol Valencia]] heddiw.
 
Yn ystod y [[Reconquista]] ar [[Penrhyn Iberia|Benrhyn Iberia]], concroddoresgynodd y Cristionogion y ''[[taifa]]s'' (teyrnasoedd) [[Islam]]aidd oedd yn ffurfio [[Al-Andalus]]. Erbyn 1237 roedd taifa Balansiya (Valencia) wedi ei choncro gan [[Iago I, brenin Aragon]]. Tros y blynyddoedd nesaf, ymestynwyd ei ffiniau tua'r de.
 
Parhaodd y boblogaeth Fwslimaidd flaenorol, y ''[[mudejar]]'', yma nes i'w disgynyddion, y [[Morisgiaid]], gael eu gyrru allan yn 1609. Cyrhaeddodd y deyrnas uchafbwynt ei grym yn rhan gyntaf y [[15fed ganrif]].