Gwynt y Môr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 10:
Mae'r cynllun yn un dadleuol iawn, yn enwedig yn lleol. Mae'n cael ei wrthwynebu yn ei ffurf bresennol, neu yn gyfangwbl, gan [[Llywodraeth Cymru]], Cyngor [[Conwy (sir)|Sir Conwy]], cynghorau tref [[Bae Colwyn]] a [[Llandudno]] a nifer o ymgyrchwyr. Mae'r penderfyniad gan Adran Ynni [[llywodraeth y DU]] i wrthod yr alwad am [[ymchwiliad cyhoeddus]] gan y cyrff hyn a gwrthwynebwyr eraill wedi codi gwrychyn nifer o bobl, yn cynnwys yr [[Aelod Cynulliad]] lleol, [[Gareth Jones (gwleidydd)|Gareth Jones]], sydd wedi galw y penderfyniad yn "annemocrataidd" am ei fod yn groes i ddymuniad Llywodraeth Cymru a phobl leol.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7760000/newsid_7762200/7762233.stm BBC Cymru: "Golau gwyrdd i gynllun fferm wynt", 3 Rhagfyr 2008]</ref> Mae [[Plaid Cymru]] a'r [[Democratiaid Rhyddfrydol]] wedi datgan na ddylai San Steffan wneud penderfyniad dadleuol fel hyn yn groes i ewyllys y Cynulliad ac yn galw am [[datganoli|ddatganoli]] hyn a materion tebyg i Gymru (fel sy'n bod yn yr Alban yn barod).
 
Trefi Llandudno a Bae Colwyn sydd ymhlith y rhai fydd yn cael eu heffeithio'n fwyaf gan y fferm wynt, a fydd yn weladwy o Landudno yn y gorllewin hyd ardal [[Y Rhyl]] i'r dwyrain. Mae [[twristiaeth]] yn elfen bwysig iawn yn yr economi lleol ac ofnir y bydd yn dioddef. Mae eraill yn wrthwynebugwrthwynebu ar seiliau [[amgylchedd]]ol neu yn syml am fod y cynllun yn mynd i ddifetha'r olygfa allan i'r môr.
 
Honnir gan y gwrthwynebwyr bod y ffigwr o "ddigon o ynni ar gyfer 680,000 o dai" yn gamarweiniol iawn hefyd, gan ei fod yn dibynnu ar amgylchiadau delfrydol sy ddim yn debyg o ddigwydd yn aml. Dadleir hefyd fod y cyflenwad pŵer o ynni gwynt yn ansefydlog ac felly bydd rhaid wrth gyflenwad cyfatebol gan bwerdai confensiynol o hyd, rhag ofn.
 
Mae'r galw am gynnal ymchwiliad cyhoeddus yn parhau. Mae Cyngor Sir Conwy yn ceisio sicrhau adnoddau ariannol ar gyfer hynny.