Bernhard Schlink: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Bywyd Cynnar==
Cafodd ei eni i dad Almaeneg (Edmund Schlink) a mam o'r Swistir, yr ieuengaf o bedwar o blant. Roedd ei fam, Irmgard, wedi bod yn fyfyrwraig ddiwinyddiaeth i'w dad, a phriodon nhw ym 1938. (Bu farw gwraig gyntaf Edmund Schlink ym 1936.) Bu tad Bernhard yn athro seminari ac yn weinidog ac yn aelod o'r "Bekennende Kirche" - eglwys Martin Niemöller. Yn 1935, cafodd ei ddiswyddo o'i swydd addysgu yn [[Giessen]] am ei feirniadaeth gyhoeddus o bolisïau'r Natsïaid. Ym 1946, daeth yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg, lle byddai'n gweithio tan iddo ymddeol yn 1971. Cafodd Bernhard Schlink ei magu yn Heidelberg o ddwy oed ymlaen. Astudiodd gyfraith ym Mhrifysgol Rhydd Gorllewin Berlin, gan raddio ym 1968.
Daeth Schlink yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol talaith ffederal Gogledd Rhine-Westphalia ym 1988 ac ym 1992 yn athro cyfraith gyhoeddus ac athroniaeth y gyfraith ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Ymddeolodd ym mis Ionawr 2006.