Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 9:
[[Delwedd:Gwynedd.jpg|bawd|150px|Logo Cyngor Gwynedd]]
 
[[Sir]] yng ngogledd-orllewin [[Cymru]] yw '''Gwynedd'''. Mae'n ffinio â [[Conwy (sir)|Sir Conwy]] i'r dwyrain a gogledd [[Powys]] a [[Ceredigion]] i'r de. Mae Gwynedd yn sir y mae cyfartaledd uchel o'i phoblogaeth yn siarad [[Cymraeg]]. Mae'r prif drefi yn cynnwys dinas [[Bangor]], [[Caernarfon]], [[Dolgellau]], [[Harlech]], [[Blaenau Ffestiniog]], [[Y Bala]], [[Porthmadog]], [[Pwllheli]], [[Bethesda]] a [[Llanberis]]. Lleolir [[Prifysgol Bangor]] yn y sir. [[Plaid Cymru]] sy'n rheoli'r Cyngor Sir ar hyn o bryd.
 
==Hanes==
Roedd yr hen sir Gwynedd (1974-1996) yn cyfateb yn fras i [[Gwynedd Uwch Conwy]], prif diriogaeth [[Teyrnas Gwynedd]]. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol [[Conwy (sir)|Sir Conwy]], yn cynnwys y [[Creuddyn]], ac [[Ynys Môn]], sef yr hen [[Sir Gaernarfon]], [[Sir Fôn]] a [[Sir Feirionnydd]]. Mae'r hen sir yn bodoli o hyd fel un o "siroedd cadwedig" Cymru at bwrpasau seremonïol.
 
==Daearyddiaeth==
{{eginyn-adran}}
 
Dominyddir y Wynedd bresennol gan fynyddoedd [[Eryri]], sy'n cynnwys [[Yr Wyddfa]], mynydd uchaf Cymru. Mae [[Afon Menai]] yn gorwedd rhwng [[Arfon]] yng ngogledd y sir ac [[Ynys Môn]]. Yng ngogledd-orllewin y sir ceir [[penrhyn Llŷn]].
 
==Economi==
Ceir [[economi]] cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar [[twristiaeth|dwristiaeth]] gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym [[Parc Cenedlaethol Eryri|Mharc Cenedlaethol Eryri]], sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal [[Meirionnydd]] yn y de ac yn llawer ehangach na'r [[Eryri]] go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am [[tŷ haf|dai haf]]. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith [[Gymraeg]] yn yr ardaloedd gwledig.
 
Mae [[amaethyddiaeth]] yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.
 
Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r [[diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]], ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y [[chwarel]]i erbyn heddiw.
 
Mae diwydiannau sydd wedi datblygu yn fwy diweddar yn cynnwys stiwdios teledu a sain (lleolir pencadlys [[Cwmni Recordiau Sain]] yn y sir). Ceir dau atomfa yng Ngwynedd: mae atomfa [[Trawsfynydd]] wedi cau ond ar hyn o bryd mae atomfa [[Wylfa]] yn dal i redeg.
 
Mae'r sector [[addysg]] yn bwysig iawn i'r economi lleol hefyd. Lleolir [[Prifysgol Bangor]] yma a cheir sawl coleg arall fel [[Coleg Menai]] hefyd.
 
==Prif drefi==
Llinell 110 ⟶ 129:
*[[Castell y Bere]]
 
==CysylltiadauDolenni allanol==
 
* [http://www.gwynedd.gov.uk/ Cyngor Gwynedd]