Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Powys Fadog"

Ychwanegwyd 57 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
delwedd
(delwedd)
[[Image:Flag of Powys Fadog.svg|thumb|200px250px|right|Baneri oBaner Powys Fadog]]
'''Powys Fadog''' neu ''Powys Maelor'' oedd y rhan ogleddol o [[Teyrnas Powys|Deyrnas Powys]]. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, [[Madog ap Maredudd]], yn [[1160]], a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, [[Owain Cyfeiliog]], y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw [[Powys Wenwynwyn]] yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, [[Gruffudd Maelor I]] y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, [[Madog ap Gruffudd Maelor]].
 
Derbyniodd Gruffudd Maelor I [[cantref|gantrefi]] [[Maelor]] ac [[Iâl]] fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu [[Nanheudwy]], [[Cynllaith]], [[Glyndyfrdwy]] a [[Mochnant]]. Pan orchfygwyd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] gan [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn [[Sir Ddinbych]] a [[Sir Fflint]]. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, [[Gruffudd Fychan I]], gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r [[Mers]] yn hytrach na thywysogion.
 
===Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog===
[[Delwedd:Coat of arms of Powys Fadog.svg|de|200px|de|Arfbais Powys Fadog]]
* 1160–1191 [[Gruffudd Maelor I]]
* 1191– 1236 [[Madog ap Gruffudd Maelor]]
Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, [[Maredudd ab Owain Glyndŵr]].
 
===Cantrefi a chymydau Powys Fadog===
Sylwer nad arosodd pob un o'r [[cantrefi a chymydau Cymru|cantrefi a chymydau]] hyn yn rhan o Bowys Fadog.