Madog Crypl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Coat of arms of Powys Fadog.svg|de|170px|de|Arfbais Powys Fadog]]
Etifedd [[Powys Fadog]] oedd '''Madog Crypl''' neu '''Madog Crippil''', hefyd '''Madog ap Gruffudd''' (c. [[1275]] -- [[1304]]). Ni fu ef ei hun erioed yn dywysog Powys Fadog, yn hytrach daliai ran o'r eifeddiaeth fel deiliad i goron Lloegr.
 
Bu farw ei dad [[Gruffudd Fychan I|Gruffudd Fychan]] yn 1289, pan oedd Madog yn dal yn blentyn. Gweinyddwyd ei diroedd gan y frenhines, yna gan [[Reginald de Grey, Barwn 1af Greu de Wilton|Reginald de Grey]], [[Ustus Caer]], yna gan Thomas o Macclesfield. Gofynnodd Madog i'r brenin wneud darpariaeth iddi, ac ymddengys iddo gael tiroedd ei dad; [[Glyndyfrdwy]] yn [[Edeirnion]] a hanner [[cwmwd]] [[Cynllaith]], sef yr ardal o gwmpas [[Sycharth]].
 
Priododd Gwenllian ferch Ithel Fychan, a chofnodir i fab iddynt, Gruffudd o Ruddallt, briodi Elizabeth, merch John LeStrange o [[Knockin]] yn 1304, pan oedd yn chwech oed. Bu Madog farw yr un flwyddyn. Yn ôl rhai o'r achau, roedd ganddo fab arall, [[Madog Fychan]], a eifeddodd diroedd ei dad.
 
 
==Llyfryddiaeth==