Maelor Saesneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Coat of arms of Powys Fadog.svg|de|170px|de|Arfbais Powys Fadog]]
[[Cwmwd]] canoloesol yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] oedd '''Maelor Saesneg'''. Fe'i greuwyd tua'r flwyddyn [[1202]], pan gafodd [[cantref]] [[Maelor]] ei rannu yn ddwy ran gan dywysog [[Powys Fadog]], gydag [[afon Dyfrdwy]] yn ffin naturiol rhyngddynt. Yn ddiweddarach, yn sgil concwest [[Edward I o Loegr]] (1282-83), cafodd yr enw Maelor ''Saesneg'' mewn cyferbyniaeth a'i gymydog am fod nifer o [[Saeson]] wedi ymgartrefu yno, ond serch hynny arosodd yn ardal bur Gymraeg am ganrifoedd.
 
Gorweddai Maelor Saesneg i'r dwyrain o afon Dyfrdwy fel tafod o dir Cymreig yn ymestyn i mewn i Loegr. Ffiniai â Maelor Gymraeg i'r gorllewin dros afon Dyfrdwy, ac â [[Caer]], [[Swydd Amwythig]] a chwmwd [[Y Traean]] ([[Croesoswallt]]) i'r dwyrain a'r de.