Pryderi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Yn y Drydedd Gainc, ''[[Manawydan fab Llŷr]]'', mae Pryderi yn rhoi ei fam, Rhiannon, yn wraig i'w gyfaill [[Manawydan fab Llŷr]]. Cyn hir mae hud yn disgyn ar Ddyfed ac mae ei phoblogaeth yn diflannu, heblaw am Manawydan, Rhiannon, Pryderi a [[Cigfa]], gwraig Pryderi. Gorfodir hwy i symud i Loegr, lle mae Manawydan a Phryderi yn ennill bywoliaeth fel crefftwyr. Maent yn ymgymeryd a nifer o grefftau, ond mae eu gwaith mor dda nes bod y crefftwyr lleol yn elyniaethus ac yn eu gorfodi i symud o fan i fan. Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio pan mae'n gafael mewn cawg o fewn caer hud ac yn glynu wrtho, ac yna mae Rhiannon hefyd yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub. Mae'r gaer a hwythau yn diflannu, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog [[Llwyd fab Cil Coed]] yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill [[Gwawl fab Clud]] ei gamdrin gan [[Pwyll]] yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.
 
Yn y Bedwaredd Gainc, ''[[Math fab Mathonwy]]'', mae Pryderi yn arglwydd ar saith cantref [[Morgannwg]] yn ogystal a [[Dyfed]], [[Ceredigion]] ac [[Ystrad Tywi]]. Daw [[Gwydion ap Dôn]] o Wynedd i'w lys yn [[Rhuddlan Teifi]] yn rhith bardd i geisio'r moch a gafodd Pryderi gan Arawn, brenin Annwfn. Mae Gwydion yn rhithio ceffylau, milgwn a thariannau, ac yn eu cyfnewid am y moch. Y diwrnod wedyn, mae'r ceffylau, milgwn a thariannau yn diflannu. Mae hyn yn arwain at ryfel rhwng Dyfed a Gwynedd, sy'n diweddu gyda ymladdfa rhwng Pryderi a Gwydion. Lleddir Pryderi, a chaiff ei gladdu ym [[Maentwrog]].
 
==Llyfryddiaeth==