Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwydion fab Dôn"

Ychwanegwyd 33 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
Yn ôl y chwedl, ni allai [[Math]] fab [[Mathonwy]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ac ewythr i Gwydion, fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn, ag eithrio yn amser rhyfel. [[Goewin]] ferch Pebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Mae brawd Gwydion, [[Gilfaethwy fab Dôn]], yn syrthio mewn cariad a hi. Dyfala Gwydion fod rhywbeth o'i le ar ei frawd, ac wedi ei holi, mae'n darganfod ei gyfrinach ac yn addo ei helpu.
 
Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] at [[Pryderi]], prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi, yn ei lys yn [[Rhuddlan Teifi]]. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo y moch a gafodd gan [[Arawn]] brenin [[Annwfn]] yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond wedi i Wydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Cynullir llu Gwynedd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. Lleddir Pryderi gan Wydion. Dychwelodd Math i [[Caer Dathyl|Gaer Dathyl]] ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.
 
Fel cosb ar y ddau frawd cymerodd Math ei [[hudlath]] a tharo Gilfaethwy "hyd onid oedd yn [[ewig]] mawr" a tharo Gwydion "hyd onid oedd yn [[carw| garw]]". Datganodd Math: "Gan eich bod wedi eich cydrwymo fe wnaf ichwi gydgerdded, a'ch bod yn gymaredig ac o'r un natur â'r anifeiliaid gwyllt yr ydych yn eu ffurf, ac yn yr amser y byddo epil iddynt hwy fe fydd i chwithau. A blwyddyn i heddiw dewch yma ataf i." Ymhen y flwyddyn dychwelodd y carw Gwydion a'r ewig Gilfaethwy gydag [[elain]] gref yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath a throi Gilfaethwy'n [[baedd| faedd]] a Gwydion yn [[hwch goed]] a'u hanfon ymaith am flwyddyn arall. Cymerodd Math y mab a'i fedyddio gyda'r enw [[Hyddwn]]. Ar ôl blwyddyn arall dychwelodd y baedd Gilfaethwy a'r hwch goed Gwydion gydag "anifail o gryn faint...yn fawr o'i oed" yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath unwaith eto a throi Gilfaethwy'n fleiddiast a Gwydion yn [[blaidd|flaidd]]. Bedyddiwyd y mab gyda'r enw [[Hychddwn]]. Dychwelodd y brodyr ymhen blwyddyn gyda chenau blaidd yn fab iddynt. Cafodd ei fedyddio gyda'r enw [[Bleiddwn]]. Dychwelodd Math y ddau frawd i'w cnawd eu hunain a dweud: "Wŷr, os gwnaethoch gam â mi, digon y buoch o dan fy nghosb".