Pietro Bembo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Llinell 10:
 
== Bywgraffiad ==
[[File:Historia veneta.tif|thumb|upright|Pietro Bembo, ''Historia Veneta'', 1729]]
[[Delwedd:Autograph von Pietro Bembo.png|bawd|150px|Llythyr mewn llaw y Cardinal Bembo ar ran y Pab Leo X.]]
Ganwyd yn [[Fenis]] i deulu bonheddig, a chafodd Pietro ei addysg [[dyneiddiaeth|ddyneiddiol]] gan ei dad Bernardo. Llysgennad dros [[Gweriniaeth Fenis|Weriniaeth Fenis]] oedd Bernardo, a chrwydrodd y gŵr a'i fab ar draws yr Eidal: [[Fflorens]], [[Padova]], a [[Messina]]. Dysgodd [[Lladin]] a'r [[Hen Roeg (iaith)|Hen Roeg]] yn rhugl, a dilynai esiampl ei dad wrth werthfawrogi hefyd yr iaith lafar a llên y gwerin. Mynychodd Pietro llysoedd [[Ferrara]] ac [[Urbino]], ac yn Fflorens daeth yn gyfaill i [[Lorenzo il Magnifico]] ac yn ffefryn i'r teulu [[Medici]]. Symudodd i [[Rhufain|Rufain]] ac ym 1513 cafodd ei benodi'n ysgrifennydd a Lladinydd i'r [[Pab Leo X]]. Yn sgil marwolaeth Leo X ym 1521, bu Bembo'n ymddeol i Padova. Cymerodd swyddi hanesydd Fenis ym 1529 a llyfrgellydd [[Eglwys Gadeiriol Sant Marc]] a dechreuodd ysgrifennu hanes ei ddinas enedigol. Cafodd tri mab gan Rufeines, ond fe beidiodd â'i phriodi gan iddo ofni colli ei fywoliaeth eglwysig. Fe'i benodwyd yn gardinal ym 1539 gan y [[Pab Pawl III]], a dychwelodd felly i Rufain i astudio diwinyddiaeth ac hanes clasurol. Er taw llenyddiaeth yn hytrach na'r eglwys oedd gwir alwedigaeth Pietro, ef oedd un o'r cardinaliaid yn fwyaf tebygol o gymryd swydd y pab.<ref name=EWB>{{eicon en}} [http://www.encyclopedia.com/people/philosophy-and-religion/roman-catholic-and-orthodox-churches-general-biographies/pietro#1G23404700558 Pietro Bembo], ''Encyclopedia of World Biography'' (2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Ebrill 2017.</ref> Bu farw yn 1547, yn 76 oed. Cyhoeddwyd ei hanes Fenis, 1487–1513 ar ôl ei farwolaeth (Lladin, 1551; Eidaleg, 1552).