Coffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhys (sgwrs | cyfraniadau)
Rhys (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 97:
Gair [[Ffrangeg]] am bot coffi yw ''cafetière''.<br>Cafodd ei ddyfeisio gan Saesnes o'r enw [[Elizabeth Dakin]] yn [[1841]], ond fe ymddangosodd gyntaf yn [[Ffrainc]] yn 1950 dan yr enw "Melior". Mae'r egwyddor yn debyg i goffi Twrcaidd ond bod hidlydd fel piston yn gwasgu'r gwehillion i waelod y pot. Fe fyddwch chi'n rhoi ffa coffi wedi malu yng ngwaelod y pot ac arllwys dŵr poeth arno, disgwyl rhyw dri neu bedwar munud, ei droi ychydyg gyda llwy, wedyn gwthio'r piston yn araf i'r gwaelod.
 
=== Bialetti / Napolitane / Espresso pen stôf / Pot Moca ===
[[Image:MokaCoffeePot.svg|bawd|150px|float|right|Trawslun "Napolitane"Bialetti]]''(Fe fydd rhai yn ei ddisgrifio felGall '''pot [[Coffi#Ffeithiau eraill|Moca]]''', ond fe fydd hwn yn gallu golyguolygu [[Coffi#Percoladur|percoladur]] hefyd.)''
[[Image:Coffe percolator moka.jpg|bawd|75px|float|left|NapolitaneBialetti]]
Gafodd hwn ei ddyfeisio gan Ffrancwr ond yn [[yr Eidal]] daeth e'n boblogaidd pan ymddangosodd yn 1933 dan yr enw "Bialetti". (Mae nhw'n boblogaidd yn [[Sbaen]] hefyd.)<br>Mae'r pot mewn dau rhan sy'n sgriwio at ei gilydd yn ddiddos. Fe fyddwch chi'n rhoi'r dŵr yn y rhan isod (A), gosod twmffat (B) gyda hidl ynddo. Rhoi'r coffi yn y twmffat a'i wasgu lawr gyda'r llwy. Sgriwio'r pot (C) yn dyn ar ei ben a'i osod ar y stôf. Pan fydd y dŵr yn dechrau berwi bydd gwasgedd yr ager yn gwthio'r dŵr poeth drwy'r coffi ac i mewn i'r pot uchod (C). Mae'r coffi yn barod yn syth. Er bod hwn yn gwneud diod neis iawn, dydy e ddim yn gwneud y coffi gorau gan fod y dŵr yn rhy boeth ac yn dueddol i ddifetha'r blas.