John Dyfnallt Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B i/w
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ganed Dyfnallt yn [[Llangiwg]], [[Morgannwg]], yn fab i Daniel ac Angharad Owen. Collodd ei fam pan oedd yn flwydd oed a magwyd ef gan rieni ei dad. Addysgwyd ef [[Cwmllynfell|Nghwmllynfell]] a bu'n lowr am gyfnod, cyn mynd i Academi Parcyfelfed, [[Caerfyrddin]], ac wedyn i [[Coleg Bala-Bangor|Goleg Bala-Bangor]] yn [[1894]]. Daeth yn wedinidog i'r [[Annibynwyr]] ym mhentref [[Trawsfynydd]] o [[1898]] hyd [[1902]], a bu'n ddylanwad ar [[Hedd Wyn]]. Symundodd wedyn i [[Deiniolen]], lle bu hyd [[1905]], gan ddod i adnabod [[T. Gwynn Jones]] a [[W. J. Gruffydd]]. Yn [[1904]] priododd Annie Hopkin, gan gael dau o blant.
 
Yn 1905 symudodd i [[Pontypridd|Bontypridd]], a thra yno enillodd y goron yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1907|Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1907]] am gerdd ar ''Y greal sanctaidd''. Daeth yn aelod o'r [[Y Gyngres Geltaidd|Gyngres Geltaidd]] yn [[1908]]. Yn [[1910]] symudodd i [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]], lle bu hyd ei ymddeoliad. Daeth yn olygydd ''Y Tyst'' yn 1927. Wedi'r [[Ail Ryfel Byd]], rhoddodd loches yn ei gartref i [[Roparz Hemon]], oedd wedi gorfod dianc o [[Llydaw|Lydaw]]. Etholwyd ef yn [[Archdderwydd]] yn 1954 yn [[Y Rhyl]].