BBC Radio Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
Gorsaf radio [[BBC Cymru]] yw '''BBC Radio Cymru''', sy'n darlledu drwy gyfrwng y [[Cymraeg|Gymraeg]]. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled [[Cymru]] ers iddi ddarlledu gyntaf ar [[3 Ionawr]] [[1977]]. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol [[DAB]], ar [[Freeview]] yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar [[lloeren|loeren]] drwy [[Prydain Fawr#Gwledydd Prydain|wledydd Prydain]] cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y [[Rhyngrwyd]] ers Ionawr 2005 - i bedwar ban byd<ref>{{cite web|url=http://www.bbc.co.uk/pressoffice/pressreleases/stories/2005/01_january/24/player.shtml |title=''BBC Press Office'' |publisher=Bbc.co.uk |date=2005-01-24 |accessdate=2013-05-04}}</ref>. Mae'r rhaglenni'n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn [[Aberystwyth]], [[Bangor]], [[Caerdydd]] a [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]].
 
Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. [[Gwyn Llewelyn]] oedd y llais nesaf i'w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd.<ref>{{dyf gwe|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6220000/newsid_6225400/6225433.stm|teitl=Radio Cymru yn 30 oed|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiadcyrchiad=6 Chwefror 2018}}</ref>
Rhaglen gyntaf Radio Cymru yn Ionawr 1977 oedd y rhaglen frecwast ''Helo Bobol!'', a oedd yn cael ei chyflwyno gan [[Hywel Gwynfryn]] gyda bwletinau newyddion gan [[Gwyn Llewelyn]]. Llais cyntaf yr orsaf oedd llais [[Robin Jones]].
Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast ''[[Helo Bobol]]'' a gyflwynwyd gan [[Hywel Gwynfryn]]. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am.
 
Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni ''Post Cyntaf'', ''Taro'r Post'' a ''Post Prynhawn'', ynghyd a bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel ''Aled Hughes'', ''Bore Cothi'', ''Tommo'', ''Tudur Owen'' a ''Geraint Lloyd''.