The War of the Worlds: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
'''''Rhybudd: Datguddir plot y llyfr yn yr erthygl hon.'''''▼
Wedi'i chyhoeddi yn 1898, [[nofel]] [[ffuglen wyddonol]] yw '''The War of the Worlds''' gan yr awdur o [[Y Saeson|Sais]] [[H. G. Wells]].
== Y Stori ==
▲'''''Rhybudd: Datguddir plot y llyfr yn yr erthygl hon.'''''<br>
Wedi'i lleoli yn bennaf yn nhrefi bach [[Surrey]], de-ddwyrain [[Lloegr]], mae'r stori'n disgrifio ymosodiad ar [[Daear|y Ddaear]] gan fyddin o'r blaned [[Mawrth]].
Mae'r rhan fwyaf o'r cyffro yn cael ei ddisgrifio o safbwynt storïwr di-enw sy'n byw yn nhref [[Woking]] pan mae'r cyntaf o longau gofod y Mawrthiaid yn glanio. (Mae cofeb bellach yn y dref honno i ddigwyddiadau'r stori
Gyda chasgliad brawychus o arafau dinistriol, gan gynnwys peiriannau ymladd tair-coesog yn saethu pelydrau gwres a mwg du marwol, mae'r ymosodwyr yn symud tua'r gogledd, gan yrru'r rhan fwyaf o bologaeth [[Llundain]] ar ffo. Mae'r storïwr yn cerdded ar ei ben ei hunan trwy strydoedd gwag y ddinas, gan dybio mai fe yw'r unig ddyn byw yno. Daw'r stori i ben yn ddramatig pan ddaw e ar draws nifer o'r Mawrthiaid yn marw, ac yn sylweddoli eu bod nhw wedi'u trechu gan [[bacteria|facteria]] naturiol [[Daear|y Ddaear]].
== Neges y Llyfr ==
Bu sawl dehongliad ar neges ac ystyr y llyfr. Yn sicr, condemniad yw e ar ''hubris'' a hyder gormodol pobl Oes Fictoria, a'u cred mai nhw oedd meistri naturiol [[Daear|y Ddaear]]. At hynny, mae yna gymhariaethau agored gan yr awdur rhwng y ffordd y mae'r Mawrthiaid yn trin pobl [[y Ddaear]] a'r ffordd yr oedd Ewropeaid wedi trin pobloedd eraill y byd. (Mae [[H.G. Wells]] yn sôn yn benodol yn y llyfr am fel y bu Ewropeaid yn gyfrifol am ddileu hil y [[Tasmania|Tasmaniaid]] yn gyfan gwbl o fewn prin bum deng mlynedd).
Llinell 15 ⟶ 16:
== Addasadiau ==
Addaswyd y [[nofel]] yn ddrama [[radio]] yn [[1938]] gan [[Orson Welles]] a'i Gwmni Theatr Mercury. Symudwyd y lleoliad i [[New Jersey]], a chyflwynodd yr actorion y stori mewn dull newyddiadurol, fel pe baent yn adrodd stori hollol wir. Mor effeithiol oedd hyn nes bod llawer o bobl yn gwir gredu bod y Mawrthiaid wedi glanio yn [[America]], gan ffoi o'u cartrefi dan fraw.
Llinell 23 ⟶ 25:
Yn [[1988]]-[[1990]] roedd yna ddwy gyfres o fersiwn teledu Americanaidd o'r '''War of the Worlds''', gyda'r Mawrthwyr yn deffro o aeafgwsg - roeddent wedi bod yn cysgu ers y ffilm [[1953]]!
Cafwyd ail addasiad ffilm yn [[2005]] gan y cyfarwyddwr [[
[[ca:La guerra dels móns]]
|