The Citadel (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up using AWB
Plot y ffilm
Llinell 16:
}}
Ffilm gan [[King Vidor]] sy'n seiliedig ar [[The Citadel|y nofel]] o'r un enw gan [[A. J. Cronin]] yw '''''The Citadel''''' ([[1938]]).
 
==Plot==
Mae Robert Donat yn chware ran Andrew Mason, [[Gwaith y meddyg|meddyg]] sydd newydd gymhwyso. Mae'n cael ei swydd gyntaf fel cynorthwyydd i Dr Page (Basil Gill). Mae Dr Gill yn hen ddyn sydd yn gwario'r rhan fwyaf o'r amser yn sâl yn ei wely gan adael i'w wraig (Dilys Davies) i redeg y practis. Mae Mrs page yn ddynes gas a chrintachlyd. Dydy hi ddim yn talu Andrew ei lawn dal a dydy hi ddim yn rhoi ddigon o fwyd iddo.
 
Wrth iddo archwilio hogyn bach efo'r [[Brech goch|frech goch]] mae'r fam yn dweud wrtho fod hi wedi danfon ei fab arall i'r ysgol. Mae Andrew wedi ei syfrdanu bod yr athrawes wedi caniatáu'r fath beth gan greu perygl y bydd yr ysgol gyfan yn dal y frech. Mae o'n mynd i'r ysgol ac yn cael ffrae efo'r athrawes, Miss Christine Barlow (Rosalind Russell), ac yn bygwth riportio hi i'r awdurdodau.
 
Mae Andrew yn dod yn ffrindiau efo meddyg arall yn yr un dref, Denny (Ralph Richardson). Mae'r ddau feddyg yn sylw bod nifer o bobl yn cael eu heintio a'r [[teiffoid]] o herwydd bod y [[Carthffos|carthffosydd]] yn annigonol ond bod yr awdurdodau yn gwrthod eu trwsio. I orfodi llaw'r awdurdodau mae'r ddau yn gosod bom i chwythu'r carthffosydd.
 
Mae Christine yn ymweld â meddygfa Andrew efo dolur gwddw. Maent yn dod ymlaen yn well nag ar eu cyfarfyddiad cyntaf. Yn ddiweddarach yr un dydd mae Andrew yn mynd adref ac yn cael ffrae ofnadwy efo Mrs Page sydd yn arwain iddo ymddiswyddo o'r practis.
 
Wedi cael ei hun yn ddi-waith mae'n clywed am swydd wag mewn tref lofaol Gymreig. Mae ei gyfweliad am y swydd yn mynd yn dda hyd i'r pwyllgor penodi ei hysbysu eu bod yn chwilio am ŵr priod. Mae o'n ddweud ei fod ar fin priodi, gan hynny mae'n cael y swydd. Mae o'n gweld Christine ac yn dweud wrthi fod o wedi sicrhau swydd ar yr amod ei fod yn priodi ac yn gofyn iddi hi ei briodi, mae hi'n cytuno.
 
Wrth weithio ymysg y [[Glöwr|glowyr]] mae Andrew yn sylwi bod nifer ohonynt yn dioddef o'r [[diciâu]] ac mae o'n credu eu bod yn cael y salwch o lwch y glo y maent yn eu cloddio. Mae Andrew a Christine yn creu labordy yn eu tŷ i ymchwilio i'r theori bod y glo yn creu'r salwch. Ond dydy'r glowyr na'r rheolwyr ddim am i'w ymchwil parhau, gan ofni byddai cysylltu'r gwaith ag afiechyd yn peryglu eu bywoliaeth. Y cyfan maen nhw eisiau yw i'r meddyg rhoi iddynt y ''ffisig pinc'' bu'r hen feddyg yn ei ragnodi.
 
Mae grŵp o lowyr yn torri fewn i dŷ'r cwpl pan fo Christine gartref ar ei phen ei hun, yn ei brawychu hi ac yn chwalu'r holl ymchwil. Maent yn penderfynu ymadael a'r pentref gan agor practis mewn dinas. Mae'r practis newydd yn stryglo gan mae dim ond pobl dlawd sy'n methu fforddio talu llawer am ofal iechyd (cyn y [[Gwasanaeth Iechyd Gwladol|GIG]]) sydd yn gleifion.
 
Mae Andrew yn cael ei alw i "argyfwng" mewn siop, lle mae'n canfod hogan ifanc cyfoethog mewn pwl o hysteria. Ychydig ar ôl y digwyddiad mae'n cwrdd â hen gyd fyfyriwr, Dr Lawford (Rex Harris), sy'n egluro bod modd gwneud ffortiwn allan o bobl fel yr hogan yn y siop trwy eu trin am ffug afiechydon. Cyn bo hir mae Andrew yn dod yn un o'r meddygon sy'n gweithio am yr arian yn hytrach nag i wella bywydau pobl. Mae hyn yn achosi straen ar ei briodas gan fod Christine yn driw i'r delfrydau gwnaeth iddi gytuno ei briodi.
 
Mae'r cwpwl yn cyfarfod a'u hen gyfaill Denny eto ac mae Denny yn ceisio cael Andrew i fynd i bartneriaeth efo fo mewn practis byddai dim ond yn gofyn yr hyn yr oeddynt yn gallu fforddio gan gleifion. Mae Andrew yn gwrthod gan nad yw am roi'r gorau i'r golud mae'n cael gan ei [[Cleifion di glefyd|gleifion di glefyd]]. Wedi siomi yn ei ffrind mae Denny yn chwilio am gysur yn y [[Diod feddwol|ddiod gadarn]]. Wedi [[Meddwdod|meddwi]] mae'n cael ei daro gan gar o flaen fflat Andrew a Christine. Mae Andrew yn brysio i'r ysbyty efo'i gyfaill ac yn cynorthwyo efo'r [[llawfeddygaeth]] i geisio achub bywyd ei gyfaill. Mae'r prif lawfeddyg yn un o'r criw sydd yn gweld gwaith y meddyg fel moddion i wneud arian, a dydy o ddim yn trio'n rhy galed i achub bywyd Denny tlawd.
 
Wedi ffieiddio mae Andrew yn cerdded strydoedd y ddinas ac yn penderfynu mynd yn ôl i fod yn feddyg cydwybodol yn hytrach na chasglwr arian.
 
 
==Cymeriadau==
Llinell 40 ⟶ 62:
* D.J. Williams - Old Thomas
 
{{eginyn ffilm ddrama}}
 
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]
[[Categori:Ffilmiau 1938]]
[[Categori:Ffilmiau sy'n seiliedig ar nofelau]]