The Citadel (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 18:
 
==Plot==
Mae Robert Donat yn chware ran Andrew Mason, [[Gwaith y meddyg|meddyg]] sydd newydd gymhwyso. Mae'n cael ei swydd gyntaf fel cynorthwyydd i Dr Page (Basil Gill). Mae Dr GillPage yn hen ddyn sydd yn gwario'r rhan fwyaf o'r amser yn sâl yn ei wely gan adael i'w wraig (Dilys Davies) i redeg y practis. Mae Mrs page yn ddynes gas a chrintachlyd. Dydy hi ddim yn talu Andrew ei lawn dal a dydy hi ddim yn rhoi ddigon o fwyd iddo<ref>[https://www.rozrussell.com/2014/02/the-citadel-1938.html Gwefan ffans Roz Russell ''THE CITADEL (1938)''] adalwyd 8 Chwefror 2018</ref><ref>[https://archive.org/details/the_citadel_1938 lawrlwytho The Citadel o Archive Org]</ref>.
 
Wrth iddo archwilio hogyn bach efo'r [[Brech goch|frech goch]] mae'r fam yn dweud wrtho fod hi wedi danfon ei fab arall i'r ysgol. Mae Andrew wedi ei syfrdanu bod yr athrawes wedi caniatáu'r fath beth gan greu perygl y bydd yr ysgol gyfan yn dal y frech. Mae o'n mynd i'r ysgol ac yn cael ffrae efo'r athrawes, Miss Christine Barlow (Rosalind Russell), ac yn bygwth riportio hi i'r awdurdodau.