The Citadel (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen Ffilm |
|enw = The Citadel |
|delwedd = The-Citadel-1938.jpg|
|pennawd = Hysbyseb
|cyfarwyddwr = [[King Vidor]] |
|cynhyrchydd = [[Victor Saville]] |
ysgrifennwr = [[A. J. Cronin]]
[[Ian Dalrymple]]
[[Frank Wead]] |
serennu= [[Robert Donat]]
[[Rosalind Russell]]
[[Ralph Richardson]]
[[Rex Harrison]]|
Llinell 15:
rhif_imdb = 0029995 |

Ffilm gan [[King Vidor]] sy'n seiliedig ar [[The Citadel|y nofel]] o'r un enw gan [[A. J. Cronin]] yw '''''The Citadel''''' ([[1938]]). Mae'r ffilm yn trafod yr angen am drugaredd a thosturi yn y byd meddygol, yn hytrach na dim ond llygad am arian. Cafodd y llyfr (a'r ffilm) eu cyhoeddi cyn dyfodiad y [[Gwasanaeth Iechyd Gwladol]] y maent yn ymgyrchu amdano ac yn ddarogan. Sydd ddim yn syndod gan fu A J Cronin yn gweithio fel cyw feddyg yn [[Tredegar|Nhredegar]], yn etholaeth ei gyfaill [[Aneurin Bevan]]<ref>[http://www.bbc.co.uk/wales/arts/sites/film/pages/films-the-citadel.shtml ''Top 10 Welsh films: The Citadel''] adalwyd 8 Chwefror 2018</ref>

==Plot==
Mae Robert Donat yn chware ran Andrew Mason, [[Gwaith y meddyg|meddyg]] sydd newydd gymhwyso. Mae'n cael ei swydd gyntaf fel cynorthwyydd i Dr Page (Basil Gill). Mae Dr Page yn hen ddyn sydd yn gwario'r rhan fwyaf o'r amser yn sâl yn ei wely gan adael i'w wraig (Dilys Davies) i redeg y practis. Mae Mrs page yn ddynes gas a chrintachlyd. Dydy hi ddim yn talu Andrew ei lawn dal a dydy hi ddim yn rhoi ddigon o fwyd iddo<ref>[https://www.rozrussell.com/2014/02/the-citadel-1938.html Gwefan ffans Roz Russell ''THE CITADEL (1938)''] adalwyd 8 Chwefror 2018</ref><ref>[https://archive.org/details/the_citadel_1938 lawrlwytho The Citadel o Archive Org] adalwyd 8 Chwefror 2018</ref>.

Wrth iddo archwilio hogyn bach efo'r [[Brech goch|frech goch]] mae'r fam yn dweud wrtho fod hi wedi danfon ei fab arall i'r ysgol. Mae Andrew wedi ei syfrdanu bod yr athrawes wedi caniatáu'r fath beth gan greu perygl y bydd yr ysgol gyfan yn dal y frech. Mae o'n mynd i'r ysgol ac yn cael ffrae efo'r athrawes, Miss Christine Barlow (Rosalind Russell), ac yn bygwth riportio hi i'r awdurdodau.