Canser yr afu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
 
Math o [[Canser|ganser]] sy'n cychwyn yn yr [[afu]] yw '''canser yr afu''', a elwir hefyd yn '''ganser hepatig''' a '''chanser hepatig cynradd'''.<ref name=NIH2016>{{cite web|title=Adult Primary Liver Cancer Treatment (PDQ®)–Patient Version|url=https://www.cancer.gov/types/liver/patient/adult-liver-treatment-pdq#section/all|website=NCI|accessdate=29 September 2016|date=6 July 2016|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20161002124639/https://www.cancer.gov/types/liver/patient/adult-liver-treatment-pdq#section/all|archivedate=2 October 2016|df=}}</ref> Y mae canserau sydd wedi lledaeni i'r afu o lefydd eraill yn y [[Corff dynol|corff]] (metastasis yr afu) llawer mwy cyffredin na chyflyrau sy'n cychwyn yn yr afu.<ref name=WCR2014Liver>{{cite book|title=World Cancer Report 2014|date=2014|publisher=World Health Organization|isbn=9283204298|pages=Chapter 5.6}}</ref> Gall canser yr afu achosi [[Symptom|symptomau]] megis ymdeimlad o boen neu lwmp gweledol islaw'r gawell asennau ar yr ochr dde, chwyddo yn yr [[abdomen]], [[croen]] melyn, cleisio hawdd, colli pwysau a gwendid cyffredinol.
 
Achosir y rhan fwyaf o gyflyrau canser yr afu gan sirosis o ganlyniad i hepatitis B, hepatitis C, neu [[alcohol]].<ref name=GBD2013>{{cite journal|last1=GBD 2013 Mortality and Causes of Death|first1=Collaborators|title=Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990-2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.|journal=Lancet|date=17 December 2014|pmid=25530442|doi=10.1016/S0140-6736(14)61682-2|pmc=4340604|volume=385|pages=117–71}}</ref> Ymhlith yr achosion eraill y mae afflatocsin, afiechyd afu brasterog di-alcohol, a llyngyr yr afu. Y mathau mwyaf cyffredin o'r cyflwr yw carsinoma hepatogellol neu HCC (80% o achosion), a cholangiocarcinoma. Ceir rhai llai cyffredin yn ogystal, er enghraifft neoplasm systig mwsinog a neoplasm bustlaidd papilaidd anhydradwyol. Gellir cadarnhau [[Diagnosis meddygol|diagnosis]] drwy [[Prawf gwaed|brawf gwaed]] a delweddu meddygol a chanfod tystiolaeth bellach o'r cyflwr drwy [[biopsi]] meinwe.
 
Ymhlith y dulliau gwarchodol posib y mae imiwneiddio yn erbyn hepatitis B ynghyd a chynnig triniaethau i'r rheini sydd wedi'u heintio â hepatitis B neu C. Argymhellir sgrinio unigolion â chlefyd cronig yr afu. Gellir trin y cyflwr drwy [[Llawfeddygaeth|lawfeddygaeth,]] therapi targedu a therapi [[ymbelydredd]]. Mewn rhai achosion, defnyddir therapi abladu neu therapi gorymddwyn a chynhelir [[Trawsblannu organau|trawsblaniad]] o'r afu mewn achosion eithafol. Caiff lympiau bach yn yr afu eu harchwilio'n aml.