William Morris Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cystrawen
3
Llinell 23:
== Blynyddoedd cynnar ==
Ganed ef yn rhif 7 Moreton Place, [[Pimlico]], [[Llundain]], yn unig fab i rieni Cymreig; roedd ei dad, William Hughes, o [[Caergybi|Gaergybi]] a'i fam Jane o [[Llansanffraid-ym-Mechain|Lansanffraid-ym-Mechain]], [[Powys]]. Wedi marwolaeth ei fam mewn damwain trên yn [[Glastonbury]] ar 28 Mai 1869, pan oedd yn saith oed, bu'n byw gyda'i fodryb ddibriod Mary Hughes, chwaer ei dad, yn [[Llandudno]]. Bu'n fyw yn ei chartref ym Mryn Rosa, 16 Abbey Road; ceir plac ar y tŷ sy'n cofnodi hynny.<ref>Ivor Wynne Jones, ''Llandudno, Queen of Welsh Resorts'' (ail argraffiad 2002), tud. 37.</ref> Mynychai ysgol fechan George Roberts yn y dref, mewn adeilad a godwyd fel ysgol Capel Wesleyaidd Caersalem yn 1837; ceir hen blac ar y drws sy'n darllen "The Right Honourable William Morris Hughes, Premier of Australia 1916-23, was educated in this building".<ref>Ivor Wynne Jones, ''Llandudno, Queen of Welsh Resorts'' (ail argraffiad 2002), tud. 26.</ref> Symudodd oddi yno i fyw gyda theulu ei fam yn [[Sir Drefaldwyn]], lle gorffennodd ddysgu siarad Cymraeg.
 
Pan oedd yn 14 oed, dychwelodd i Lundain i weithio fel athro ifanc. Yn 1881, roedd yn byw gyda'i dad a chwaer hynaf ei dad, Mary Hughes, yn 78 Ffordd Vauxhall Bridge.
 
== Awstralia ==
Ymfudodd i Awstralia yn Hydref [[1884]]. AgoroddWedi peth gwaith fel cogydd a labrwr, agorodd siop a bu'n weithgar gyda'r undebau llafur. Roedd yn [[Sydney]] yn 1886 ble roedd yn byw gyda merch ei landlord, sef Elizabeth Cutts.

Yn 1901 etholwyd ef i'r Senedd dros y Blaid Lafur yn etholaeth Gorllewin Sydney. Yn y cyfnod hwn, astudiodd y gyfraith a chafodd ei wneud yn fargyfreithiwr yn 1903. Bu farw ei wraig yn 1906; ei ferch hynaf fagodd ei bum plentyn iau, a hynny yn Sydney. Yn 1911 priododd Mary Cambell.

==Prif Weinidog Awstralia==
Daeth yn Brif Weinidog yn Hydref 1915, ynghanol [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Bu rhwyg gyda charfan o'r Blaid Lafur, a ffurfiodd Hughes a'i gefnogwyr ei blaid ei hun, y Blaid Genedlaethol, a enillodd etholiad [[1917]], gyda Hughes yn parhau yn'n Brif Weinidog. Yn [[1919]] cynrychiolodd Awstralia yn y trafodaethau a arweiniodd at [[Cytundeb Versailles|Gytundeb Versailles]]; dywedir ei fod yn sgwrsio yn Gymraeg gyda [[David Lloyd George]]. Ymddiswyddodd yn Chwefror 1923.
 
==Llyfryddiaeth==