Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thymws"

No change in size ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
 
== Swyddogaeth ==
Mae lymffocytau T neu gelloedd T yn gelloedd gwaed gwyn sy'n diogelu rhag organebau tramorestron (bacteria a firysau) sydd wedi llwyddo i heintio celloedd y corff<ref>[https://www.thoughtco.com/thymus-anatomy-373250 Thought Co ''Learn About the Thymus Gland''] adalwyd 30 Ionawr 2018</ref>. Swyddogaeth y thymws yw derbyn celloedd T anaeddfed sy'n cael eu cynhyrchu yn [[Mer esgyrn|fer esgyrn]] coch a'u hyfforddi i ddyfod yn gelloedd T gweithredol, aeddfed sy'n ymosod ar gelloedd estron yn unig. Mae nifer o hormonau a gynhyrchir gan y thymws yn hyrwyddo cymedroli'r celloedd T cyn eu rhyddhau i mewn i'r llif gwaed. Mae'r celloedd T aeddfed wedyn yn cylchredeg trwy'r corff lle maent yn adnabod ac yn lladd pathogenau estron, yn gwneud celloedd B yn weithredol ac yn storio cof am gyn heintiau.
 
Mae'r thymws yn tyfu yn ystod plentyndod ac yn crebachu yn yr oedolyn. Mae'r crebachu yn digwydd oherwydd bod llai o rôl gan y thyroid i chware yng nghyrff oedolion - mae'r system imiwnedd yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o'i gelloedd T yn ystod plentyndod ac mae angen ychydig iawn o gelloedd T newydd ar ôl y glasoed.