Rafah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Tref Balesteinaidd yn Llain Gaza, am y ffin â'r Aifft yn Sinai yw '''Rafah''' (Arabeg: رفح‎). Mae'n safle hynafol. Roedd yn cael ei hadnabod fel...
 
map
Llinell 1:
Tref [[Palesteina|Balesteinaidd]] yn [[Llain Gaza]], am y ffin â'r [[Aifft]] yn [[Sinai]] yw '''Rafah''' ([[Arabeg]]: رفح‎). Mae'n safle hynafol. Roedd yn cael ei hadnabod fel "Robihwa" gan bobl [[yr Hen Aifft]], "Rafihu" gan yr [[Assyria]]id, "Raphia" gan y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] a'r [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]], "Raphiaḥ" gan yr [[Hebreaid|Israeliaid hynafol]] a "Rafah" yw'r enw arni heddiw.
 
[[Delwedd:Gazastreifen Karte.png|bawd|170px|Llain Gaza gyda Rafah ar y chwith, gwaelod]]
 
Rafah yw'r dref fwyaf yn ne Llain Gaza, gyda phoblogaeth o tua 130,000, a 84,000 yn byw yn y ddwy wersyll i ffoaduriaid a geir yno, sef Gwersyll Canada (Gwersyll Tell as-Sultan) i'r gogledd, a Gwersyll Rafah i'r de. Mae'n gwasanaethu fel canolfan ranbarthol Talaith Rafah (''Rafah Governorate''). Lleolir Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat, unig faes awyr Llain Gaza, fymryn i'r de o Rafah; rhedodd o 1998 hyd 2001 ond mae ar gau heddiw. Yn Rafah ceir yr unig groesfan swyddogol rhwng Llain Gaza a'r Aifft.