Rafah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
map
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Delwedd:Gazastreifen Karte.png|bawd|170px|Llain Gaza gyda Rafah ar y chwith, gwaelod]]
 
Rafah yw'r dref fwyaf yn ne Llain Gaza, gyda phoblogaeth o tua 130,000, a 84,000 yn byw yn y ddwy wersyll i ffoaduriaid a geir yno, sef Gwersyll Canada (Gwersyll Tell as-Sultan) i'r gogledd, a Gwersyll Rafah i'r de. Mae'n gwasanaethu fel canolfan ranbarthol Talaith Rafah (''Rafah Governorate''). Lleolir [[Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat]], unig faes awyr Llain Gaza, fymryn i'r de o Rafah; rhedodd o 1998 hyd 2001 ond mae ar gau heddiw. Yn Rafah ceir yr unig groesfan swyddogol rhwng Llain Gaza a'r Aifft.
 
Mae Rafah a'r cylch yn adnabyddus am y rhwydwaith o dwnelau cudd sy'n croesi'r ffin. Maent yn fodd i smyglo bwyd a nwyddau - ac arfau - i mewn i Gaza ac i bobl geisio ddianc i'r Aifft i chwilio am waith.