Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Polynomial"

Lleihawyd o 3 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (robot yn newid: bs:Polinom)
BNo edit summary
Gallwn ystyried fod ''R''[''X''] yn deillio o ''R'' trwy ychwanegu elfen ''X'' i ''R'' a'r unig amod ar ''X'' yw ei fod yn cymudo â phob elfen o ''R''. Er mwyn i ''R''[''X''] ffurfio modrwy, rhaid cynnwys hefyd pob sỳm o bwerau o ''X''. Mae ffurfio'r fodrwy bolynomaidd, ynghyd â ffurfio modrwyon cymhareb trwy ffactorio'r idealau allan, yn arfau pwysig at ffurfio modrwyon newydd.
 
I bob polynomial ''f'' yn ''R''[''X''], gellir diffinio '''ffwythiant polynomaidd''' sydd â pharth ac amrediad ''R''. Canfyddir allbwn y ffwythiant ar gyfer mewnbwn ''r'' trwy roi ''r'' yn lle ''X'' yn y mynegiant <i>''f</i>''. Mae'n rhaid i algebryddion wahaniaethu rhwng polynomialau a ffwythiannau polynomaidd, oherwydd bod dau wahanol bolynomial yn gallu ennyn ar yr un ffwythiant (er enghraifft, os yw'r polynomialau dros [[corff (mathemateg)|gorff meidraidd]]). Nid yw hyn yn wir am y rhifau real neu gymhlyg, felly yn aml nid yw [[dadansoddi|dadansoddwyr]] yn gwahaniaethu rhwng y ddau gysyniad.
 
[[Categori:Algebra]]