Carnedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Carnedd''' neu '''carn''' yw'r enw a roddir ar bentwr o gerrig wedi ei godi i nodi mangre arbennig. Fe'i ceir fel rheol ar yr ucheldiroedd, yn arbennig ar gopaon mynyddoedd.
 
Ceir nifer o wahanol fathau o garneddi. Mae cryn nifer o garneddi Cymru yn dyddio o [[Oes yr Efydd]], a cheir claddedigaethau tu mewn iddynt. Ymhlith yr enghreifftiau gorau o'r math yma mae [[Bryn Cader Faner]] a'r tair carnedd fawr ar gopa [[Foel Drygarn]]. Ceir tystiolaeth i'r arfer o gladdu dan bentwr o gerrig yng Nghymru barhau i'r cyfnod Rhufeinig ac wedyn. Gall carnedd hefyd fod yn llawer mwy diweddar, wedi ei hadeiladu i nodi'r fan uchaf ar gopa mynydd neu fryn, neu i nodi llwybr.
 
Ceir "carnedd" neu "carn" fel elfen yn enw mynyddoedd, er enghraifft [[Carnedd Llywelyn]] a [[Carnedd Dafydd]], a roddodd ei enw i fynyddoedd y [[Carneddau]]. Yr hen enw ar fynydd [[Elidir Fawr]] oedd "Carnedd Elidir".