Mynydd Preseli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Image:Preseli.jpg|thumb|Carn Edward a Cerrig Lladron, Preseli]]
Y copa uchaf yw [[Foel Cwmcerwyn]] (536 medr). Copaon eraill yw [[Carn Ingli]], [[Foel Eryr]], [[Foel Feddau]], [[Frenni Fach]], [[Frenni Fawr]] a [[Foel Drygarn]]. Ceir nifer fawr o olion o gyfnodau cynhanesyddol yn y Preselau; y mwyaf adnabyddus efallai yw cromlech [[Pentre Ifan]]. Ceir nifer fawr o olion o [[Oes yr Efydd]] o gwmpas [[Carn Ingli]], a chredir fod yr ardal hon wedi bod o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnod hwnnw. Credir bod y meini glesion sy'n ffurfio rhan o adeiladwaith [[Côr y Cewri]] wedi dod o ardal [[Carn Menyn]] (neu Carn Meini) yma. Ceir hefyd [[carnedd|garneddi]] o [[Oes yr Efydd]] a [[bryngeiri]] o [[Oes yr Haearn]], er enghraifft ar Foel Drygarn a Charn Ingli.
Llinell 7:
Ceir cyferiad at y Preselau yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', lle mae'r [[Twrch Trwyth]] yn glanio ym Mhorth Clais ar ôl anrheithio [[Iwerddon]], ac yna'n mynd i Preselau, gan ladd pedwar o wŷr [[Arthur]] yng Nghwm Cerwyn. Lleolir llawer o ddigwyddiadau ''[[Pwyll Pendefig Dyfed]]'' yn y Preselau hefyd, er enghraifft ar ddechrau'r hanes, mae Pwyll yn hela yng Nglyn Cuch.
Arferai'r [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]] fod yn bwysig yma, er nad oes yr un o'r chwareli yn parhau ar agor erbyn hyn.
Magwyd y bardd [[Waldo Williams]] yn yr ardal, ac mae 'Preseli' yn un o'i gerddi enwocaf, sy'n dechrau gyda'r cwpled cyfarwydd:
:''Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,'' ▼
:Wrth fy nghefn ymhob annibyniaeth barn.<ref>Waldo Williams, ''Dail Pren'' (argraffiad newydd, Gwasg Gomer, 1991), tud. 29.</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
==Cysylltiadau allanol==
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/bro_preseli.shtml BBC Adnabod Ardal Preseli]
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/bro_preseli2.shtml BBC Adnabod Ardal Preseli 2]
[[Categori:Sir Benfro]]
|