86,744
golygiad
B |
B |
||
[[Image:Preseli.jpg|thumb|Carn Edward a Cerrig Lladron, Preseli]]▼
[[Mynydd]]oedd yng ngogledd [[Sir Benfro]] yn ne-orllewin [[Cymru]] yw '''Mynydd Preseli''', hefyd '''Mynydd Preselau''', '''Y Preseli''' neu '''Y Preselau'''. Maent yn rhan o [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro]], ac yn ymestyn o gyffiniau [[Abergwaun]] yn y gorllewin hyd ar ardal [[Crymych]] yn y dwyrain.
Y copa uchaf yw [[Foel Cwmcerwyn]] (536 medr). Copaon eraill yw [[Carn Ingli]], [[Foel Eryr]], [[Foel Feddau]], [[Frenni Fach]], [[Frenni Fawr]] a [[Foel Drygarn]]. Ceir nifer fawr o olion o gyfnodau cynhanesyddol yn y Preselau; y mwyaf adnabyddus efallai yw cromlech [[Pentre Ifan]]. Ceir nifer fawr o olion o [[Oes yr Efydd]] o gwmpas [[Carn Ingli]], a chredir fod yr ardal hon wedi bod o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnod hwnnw. Credir bod y meini glesion sy'n ffurfio rhan o adeiladwaith [[Côr y Cewri]] wedi dod o ardal [[Carn Menyn]] (neu Carn Meini) yma. Ceir hefyd [[carnedd|garneddi]] o [[Oes yr Efydd]] a [[bryngeiri]] o [[Oes yr Haearn]], er enghraifft ar Foel Drygarn a Charn Ingli.
|